Canu ym mhriodas Harry a Megan yn 'brofiad cyffrous'

  • Cyhoeddwyd
Elin Manahan Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Y soprano Elin Manahan Thomas yn ganu ar ddechrau gwasanaeth priodas y Tywysog Harry a Meghan Markle

Y gantores Elin Manahan Thomas berfformiodd y gân agoriadol ym mhriodas y Tywysog Harry a Meghan Markle yn Eglwys San Siôr yn Windsor ddydd Sadwrn.

I gyfeiliant cerddorfa oedd yn cynnwys aelodau o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, canodd y soprano o Orseinon ger Abertawe un o weithiau Handel wrth i Meghan Markle gerdded at yr allor, cyn i Ddeon Westminster groesawu'r gwahoddedigion i'r briodas.

Disgrifiad o’r llun,

Bu Elin Manahan Thomas yn sôn am y profiad o ganu yn y briodas

Yn dilyn y briodas, dywedodd Elin Manahan Thomas ei bod wedi mwynhau'r profiad: "Roedd e'n gyffrous iawn.

"Cyn gynted ag y cefais i'r alwad yng nghanol Mawrth, yn dweud y bydden nhw'n hoffi cerdded i mewn i Eternal Source of Light Divine, fe sgrechiais i ychydig, ond fe feddyliais i pa mor berffaith oedd e.

"Mae wedi bod yn ddiwrnod hyfryd."

Ychwanegodd mai'r pwysau mwyaf oedd hi wedi ei deimlo oedd sut i amseru'r canu: "Y straen mwyaf oedd gwybod pa mor gyflym yr oedd hi'n mynd i gerdded.

"Dyma'i moment hi. Dydych chi ddim eisiau bod yn rhy gyflym. Mae yna gymaint o gynllunio.

"Roedd popeth wedi ei drefnu mor dda, ond dwi'n credu mai'r peth pwysicaf oedd bod y briodas yn teimlo fel un i deulu a ffrindiau."

Disgrifiad o’r llun,

Yn unol â thraddodiad brenhinol, modrwy o aur Cymru gafodd Meghan Markle gan Y Tywysog Harry

Yn ystod y gwasanaeth hefyd, fe ganwyd emyn William Williams Pantycelyn, Cwm Rhondda.

Cadarnhaodd Palas Kensington bod modrwy briodas Meghan Markle, yn ôl traddodiad brenhinol, wedi ei gwneud o aur Cymru.

Disgrifiad,

Roedd rhai o'r gwahoddedigion wrth eu bodd yn cael bod yn rhan o'r achlysur

Fe deithiodd nifer o Gymry i Windsor - rhai wedi eu gwahodd i'r briodas, eraill yn gwylio'r digwyddiad o'r strydoedd. Hefyd, cafodd tua 30 parti stryd eu trefnu yng Nghymru i nodi'r achlysur.