Diwrnod mawr Gwen a Ben: Y cwpl arall sy'n priodi ar 19 Mai

  • Cyhoeddwyd

Mae'r siwtiau wedi cyrraedd, y modrwyau yn ddiogel, a'r ffrog briodas yn hongian ac yn barod i'w gwisgo.

Mae'r diwrnod mawr bron â chyrraedd i Gwen Ffion Owens o Gaernarfon a Ben Davies o Rosgadfan a fydd yn priodi ddydd Sadwrn, 19 Mai.

Roedd y cwpl yn siarad am y paratoadau ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ddydd Gwener.

Disgrifiad o’r llun,

Ben a Gwen - y cwpl hapus

Roedd Gwen wedi "dychryn braidd" pan sylweddolon nhw fod eu priodas yn Eglwys Santes Margaret ym Modelwyddan yr un dyddiad â'r briodas frenhinol, "'da ni 'di bwcio ers bron i ddwy flynedd felly maen nhw wedi cymryd ein diwrnod ni!" meddai.

Ond mae Ben yn siŵr y byddan nhw'n cael "diwrnod llawer gwell" na'r Tywysog Harry a Meghan Markle, draw yn Windsor, ac yn benderfynol o gael lot o hwyl!

Hefyd o ddiddordeb:

Rhannu'r diwrnod mawr

Fel rhywun sydd yn hoff iawn o'r teulu brenhinol, mae rhannu eu diwrnod mawr â Harry a Meghan yn arbennig i Gwen.

"Mae gen i fodrwy ddyweddïo debyg i Diana. Dwi'n licio'r teulu brenhinol - dwi'n meddwl eu bod nhw'n rhan mawr o'n diwylliant ni fel gwlad Brydeinig."

Fodd bynnag, mae Ben yn credu bod cost anferth i'r briodas ac y buasai'r arian yn gallu cael ei wario ar bobl sydd ei angen.

"Diwrnod ni"

Mae'r cwpl yn edrych ymlaen at "diwrnod ni" ddydd Sadwrn, er fod y ffaith fod y ddwy briodas yn digwydd am 12pm yn golygu na fydd Gwen yn gallu cael cip ar ffrog Meghan Markle tan yn hwyrach. "'Swn i 'di licio cael gweld ei phriodas hi, ond fydda i braidd yn brysur fy hun!" meddai.

Pob lwc i Ben a Gwen!