Coleg yn peidio marcio myfyrwyr mewn ymdrech i leihau straen
- Cyhoeddwyd
Mae'r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi'r gorau i roi marciau i fyfyrwyr ar ddiwedd eu blwyddyn gyntaf, fel rhan o gynllun sydd wedi ei anelu at wella lles iechyd meddwl myfyrwyr.
Cynllun peilot fydd hwn, gyda'r nod hefyd o helpu myfyrwyr i drosglwyddo o fywyd ysgol i addysg uwch.
Cafodd y cynllun ei gyflwyno i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf ar ddau gwrs yn ysgol ddrama'r coleg eleni, gyda'r bwriad o'i ymestyn i ragor o gyrsiau pan fydd y tymor newydd yn dechrau ym mis Medi.
Nododd y coleg y bydd hi'n bosib i fyfyrwyr ofyn am gael gwybod eu gradd academaidd ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, fydd ddim yn cyfrannu at eu marc gradd terfynol.
Dywedodd Brian Weir ar ran y coleg: "Mae myfyrwyr blwyddyn gyntaf yn y coleg wedi treulio'r degawd diwethaf yn cael eu marcio a'u gosod mewn tabl sy'n eu cymharu ag aelodau eraill eu dosbarth.
"Rydyn ni wedi darganfod fod myfyrwyr yn canolbwyntio ar eu marc a'u safle o fewn eu dosbarth, yn hytrach na chymryd i ystyriaeth yr adborth ysgrifenedig.
"Roedden ni eisiau hwyluso'r trosglwyddiad o'r ysgol i addysg uwch, a gweithio gyda myfyrwyr mewn partneriaeth, tra'n eu hannog i gymryd rheolaeth o'u datblygiad eu hunain."
Bydd y coleg yn adolygu llwyddiant y prosiect ar ddiwedd y flwyddyn, ond mae'n gobeithio y bydd yn dod yn rhan o ethos y sefydliad a'i ehangu ar draws y coleg o fewn y blynyddoedd nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018