Carchar am oes i ddyn am lofruddiaeth yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Kyle DunbarFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Kyle Dunbar newid ei ble i euog wythnos cyn dechrau'r achos yn ei erbyn

Mae dyn o Fforestfach wedi cael dedfryd o garchar am oes ar ôl pledio'n euog i lofruddio dyn lleol yn Abertawe yn ystod gwyliau Nadolig y llynedd.

Cafodd David Wynne, tad i ddau o ardal Gendros, ei drywanu yn ei wddf gyda photel wydr wedi torri wrth aros am dacsi ar stryd fawr y ddinas nos Sadwrn 23 Rhagfyr.

Bu farw Mr Wynne, oedd yn 39 oed, yn Ysbyty Treforys ar Ŵyl San Steffan.

Yn wreiddiol roedd Kyle Dunbar wedi gwadu llofruddiaeth, gan bledio'n euog i ddynladdiad, ond fe gyfaddefodd ei fod wedi llofruddio Mr Wynne wythnos cyn dyddiad cyntaf yr achos yn ei erbyn.

'Fwyfwy treisgar'

Wrth ddweud bod rhaid i Dunbar dreulio o leiaf 20 mlynedd dan glo cyn cael ceisio am barôl, dywedodd y barnwr fod yr ymosodiad yn un "ddisynnwyr" a "chiaidd".

Clywodd Llys y Goron Abertawe ddydd Llun fod David Wynne wedi bod yn yfed gyda ffrindiau ar noson yr ymosodiad.

Fe welodd y llys luniau CCTV o Kyle Dunbar yn dwyn poteli persawr o siop Boots cyn ceisio'u gwerthu i aelodau'r cyhoedd o gwmpas canol y ddinas.

Dywedodd yr erlyniad fod Dunbar wedi dyfalbarhau mewn ffordd "benderfynol" a'i fod wedi ymddwyn yn "fwyfwy treisgar tuag at David Wynne" pan gyfarfu'r ddau am tua 21:30.

Ffynhonnell y llun, Heddlu'r De/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys fod David Wynne wedi dweud wrth bobl a geisiodd ei helpu wedi'r ymosodiad ei fod yn gwybod ei fod yn mynd i farw

Roedd yna ddwy ffrae rhwng y ddau - y gyntaf ar y Stryd Fawr, a'r ail ychydig funudau'n ddiweddarach ger yr orsaf reilffordd.

Roedd Mr Wynne wedi bod yn swyddfa Station Cabs i drefnu tacsi adref, ac wrth iddo ddychwelyd i'r stryd fe daflodd y diffynnydd botel o bersawr at ei draed gan falu'r botel.

Am yr eildro, fe gerddodd Mr Wynne oddi wrtho gan fynd yn ôl i'r swyddfa tacsi, ac yn ôl yr erlyniad cafodd rhan o'r botel ei ddefnyddio i ymosod ar Mr Wynne.

'Rwy'n mynd i farw'

Mae lluniau CCTV o du allan i'r swyddfa'n dangos Dunbar yn "trywanu David Wynne yn y gwddf yn ffyrnig a gyda grym" cyn rhedeg o'r safle.

Roedd staff y cwmni tacsi wedi rhoi cymorth i Mr Wynne cyn i barafeddygon a'r heddlu gyrraedd.

Yn ôl yr erlyniad, dywedodd Mr Wynne wrth y rhai fu'n ceisio ei helpu ei fod "yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd - rwy'n mynd i farw".

Clywodd y llys ei fod wedi colli tua thri litr o waed, a bod ei galon wedi stopio ar y ffordd i'r ysbyty. Cafodd nifer o lawdriniaethau yno cyn marw tridiau wedi'r ymosodiad.

Cafodd Dunbar ei arestio yn Nhreforys chwech awr wedi'r ymosodiad.

'Roedd pawb yn ei garu'

Dywedodd y Barnwr Paul Thomas fod Dunbar wedi torri'r botel "a'i droi yn fwriadol yn arf angheuol".

Ychwanegodd: "Ni allaf anwybyddu'r ffaith ofnadwy fod Mr Wynne yn gwybod ei fod yn marw."

Mewn datganiad gafodd ei ddarllen yn y llys ar ran ei deulu, cafodd ei ddisgrifio gan ei dad, Michael Wynne fel "gweithiwr caled" a "bachgen hyfryd... roedd pawb yn ei garu".

"Rwy'n gweld ei eisiau - a'i wên lydan," meddai'r datganiad.

Dywedodd cyn-bartner David Wynne, Kayleigh Louise Reynolds, fod "dim byd yn eich paratoi... i ddweud wrth eich plant na fydd eu tad yn ymuno â nhw ar gyfer y Nadolig."