Popeth 'dych chi angen ei wybod am Eisteddfod yr Urdd 2018 mewn 200 gair

  • Cyhoeddwyd
Y Pentre'Ffynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 'na fwy o waith paratoi ar ôl i'r Sioe Wanwyn fod ar y safle y penwythnos diwetha'

Pryd a lle?

Bydd Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed ar faes Sioe Amaethyddol Cymru, Llanelwedd rhwng 28 Mai-2 Mehefin.

Sut mae cyrraedd y maes?

Dilynwch yr arwyddion melyn i gyrraedd y meysydd parcio ar safle'r sioe, sydd ar yr A470 (ffordd Rhaeadr-Llanelwedd).

Mae'r fynedfa i'r maes carafanau a gwersylla wrth ymyl maes y sioe. Dilynwch yr arwyddion 'carafán' melyn pwrpasol ar ôl cyrraedd Llanelwedd.

Côd Post y safle yw LD2 3SY. Ond peidiwch â bod yn llwyr ddibynnol ar eich sat navs ydy'r cyngor gan y trefnwyr!

Sut fydd y tywydd?

"Bydd hi'n wythnos sych a braf ar y cyfan, er fod 'na ambell gawod drom a tharanau yn bosib," meddai Robin Owain Jones o adran dywydd BBC Cymru.

"20-22 gradd Celsius ddechrau'r wythnos, ond yn gostwng cwpl o raddau erbyn y penwythnos.

"Bydd y lefelau uwchfioled yn uchel, felly cymerwch ofal allan yn yr heulwen - ac os yn dioddef o glefyd y gwair, bydd lefelau'r paill yn uchel hefyd."

Ffynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Tybed fydd yr haul yn tywynnu eleni?

Wedi'u gwahardd...

Cŵn (oni bai am gŵn tywys), ac ysmygu (gan gynnwys e-sigarennau).

Pa mor brysur?

Yn un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop, mae'n denu tua 90,000 o ymwelwyr ar draws chwe diwrnod yn flynyddol.

Mewn cymhariaeth, mae tua 240,000 o bobl yn heidio i'r un maes dros bedwar diwrnod ar gyfer y Sioe Fawr.