Bwriad i ail-lansio Loteri Cymru ar ôl gwerthu'r fenter
- Cyhoeddwyd
Mae gweinyddwyr wedi gwerthu Loteri Cymru i gwmni loteri arall sy'n bwriadu ail-lansio'r gêm.
Fe wnaeth loteri Cymru fynd i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Mawrth gan adael 10,000 o gwsmeriaid oedd methu cael mynediad at eu cyfrifon ar-lein.
Bydd chwaraewyr gydag arian mewn cyfrif Loteri Cymru yn gallu chwarae'r gêm newydd neu hawlio eu harian yn ôl.
Mae BBC Cymru ar ddeall mai cangen fasnachol S4C, corff o'r enw SDML (S4C Digital Media Limited), oedd prif gefnogwr ariannol y fenter, yn ogystal â bod yn bartner darlledu ar gyfer canlyniadau Loteri Cymru.
Cafodd Alistair Wardell a Jason Bell o gwmni Grant Thornton eu penodi fel cyd-weinyddwyr ar gyfer Loteri Cymru CIC ym mis Ebrill.
Maen nhw bellach wedi gwerthu'r busnes a'r asedau i gwmni Sterling Management Centre Limited, sy'n gweithredu nifer o loterïau ar gyfer sawl elusen yn y DU.
Mae Sterling wedi cytuno i dderbyn y chwaraewyr hynny sydd ag arian yn weddill yn eu cyfrifon Loteri Cymru i gymryd rhan yn y loteri newydd, neu mae modd iddyn nhw ofyn am eu harian yn ôl.
Dywedodd y gweinyddwyr y bydd "Sterling yn cysylltu gyda chwaraewyr sydd gydag arian yn ei waledau yn yr wythnosau nesaf".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd8 Mai 2018