CPD Bangor yn penodi Craig Harrison fel rheolwr newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi cyhoeddi mai Craig Harrison fydd rheolwr newydd y clwb.
Mewn cynhadledd newyddion ddydd Mercher, cyhoeddodd y clwb mai cyn-reolwr Y Seintiau Newydd a Hartlepool United fydd yn cymryd yr awenau yn dilyn ymadawiad Kevin Nicholson.
Daw'r penodiad mewn cyfnod cythryblus i'r clwb.
Datgelodd Harrison mai'r chwaraewr cyntaf i arwyddo gyda'r clwb yw cyn arwr bangor, Les Davies.
Wedi i'r clwb fethu gyda'u cais am drwydded i gystadlu yn Uwch Gynghrair Cymru y tymor nesaf - er iddyn nhw orffen yn ail yn y tabl y tymor hwn - fe fyddan nhw'n cystadlu yng Nghynghrair Undebol Huws Gray y tymor nesaf.
Fel rheolwr Y Seintiau Newydd fe wnaeth Harrison ennill Uwch Gynghrair Cymru chwe gwaith a Chwpan Cymru bedair gwaith.
Aeth ymlaen i gael ei benodi'n rheolwr ar Hartlepool yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr, ond gadawodd yno ym mis Chwefror eleni yn dilyn cyfres siomedig o ganlyniadau.
'Y clwb mwyaf'
Dywedodd Harrison yn y gynhadledd: "Mae'n glwb anferth... y clwb domestig mwyaf yng Nghymru ym mha bynnag gynghrair maen nhw'n cystadlu.
"Doedd bod yng Nghynghrair Undebol Huws Gray ddim wedi effeithio ar fy mhenderfyniad. Dwi am fynd â'r clwb yn ôl i'r Uwch Gynghrair er mwyn cystadlu lle dylen ni fod."
Ychwanegodd Harrison ei fod "mwy neu lai" wedi penderfynu pwy fydd yn ei gynorthwyo fel tîm rheoli, ond nad oedd mewn sefyllfa i ddatgelu hynny am y tro.
Dywedodd ei fod wedi cynnal trafodaethau gyda rhai o'r chwaraewyr, ond y byddai'n gallu datgelu o fewn yr wythnosau nesaf pa chwaraewyr fyddai'n aros gyda'r clwb, a pha enwau newydd sy'n debygol o ymuno yn ystod yr haf.
Ond ar ddiwedd y gynhadledd fe wnaeth Harrison gyhoeddi bod cyn-ymosodwr Bangor, Les Davies, yn dychwelyd i'r clwb ar ôl cyfnodau gyda Chei Connah a'r Bala.
Ond wrth ateb y cwestiwn 'A fydd mwy o'r tîm dan-19 yn cael lle gyda'r tîm cyntaf?' atebodd: "Dydw i ddim wedi dod i Fangor i rheoli tîm dan-19 oed".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2018
- Cyhoeddwyd14 Mai 2018
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2018