£27m y flwyddyn i daclo heriau 'unigryw' Hywel Dda

  • Cyhoeddwyd
llwynhelygFfynhonnell y llun, Ceridwen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd o dan ofal Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Bydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn derbyn £27m ychwanegol y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru er mwyn mynd i'r afael â heriau "unigryw" sy'n achosi costau ychwanegol nad oes modd eu hosgoi.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething fe fydd yr arian yn gosod y bwrdd ar sylfaen gyllido deg o'i gymharu â'r byrddau iechyd eraill.

Mae hynny yn sgil adolygiad annibynnol sy'n dod i'r casgliad fod y bwrdd "yn wynebu cyfres unigryw o heriau gofal iechyd" sydd wedi "cyfrannu at y diffygion cyson" y mae'r bwrdd a sefydliadau blaenorol wedi gorfod eu hysgwyddo.

Dywedodd Mr Gethin y bydd yr arian yn "sylfaen gadarn i'r bwrdd ddatblygu a thrawsnewid gwasanaethau".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Vaughan Gething bod y bwrdd yn "wynebu cyfres unigryw o heriau"

Roedd yr adolygiad yn asesu costau ychwanegol posib sy'n codi o batrwm presennol gwasanaethau gofal iechyd y bwrdd, ac n canolbwyntio ar bedwar ffactor cyffredinol sy'n effeithio ar gostau iechyd, sef demograffeg, pellter daearyddol, graddfa ac effeithlonrwydd.

Cyflwynwyd adroddiad llawn yr adolygiad mewn cyfarfod o'r bwrdd iechyd, gafodd ei gynnal ar 29 Mawrth.

'Heriau unigryw'

Fe gafodd amcangyfrifon costau ychwanegol y ffactorau yma eu cymharu â chyfartaledd costau holl fyrddau iechyd Cymru.

Dywedodd Mr Gething: "Mae'r adolygiad yn cadarnhau'n rhannol y farn bod Hywel Dda yn wynebu cyfres unigryw o heriau gofal iechyd sydd wedi cyfrannu at y diffygion cyson a ysgwyddir gan y bwrdd.

"Wrth ymateb i'r canfyddiadau hyn, rwyf wedi cymeradwyo rhyddhau £27m o gyllid rheolaidd ychwanegol i'r bwrdd iechyd.

"Yn dilyn fy mhenderfyniad i ariannu'r costau ychwanegol a nodwyd ar gyfer gofal iechyd yn y canolbarth a'r gorllewin, rwyf bellach yn disgwyl i'r bwrdd ganolbwyntio ar y costau yr oedd yr adolygiad yn nodi eu bod o fewn eu rheolaeth, a chyflawni'r arbedion effeithlonrwydd a nodwyd."