Llais y Llywydd: Yr naturiaethwr Iolo Williams

  • Cyhoeddwyd
Iolo WilliamsFfynhonnell y llun, keith morris

Daw'r naturiaethwr a'r darlledwr Iolo Williams o Lanwddyn yng ngogledd Sir Drefaldwyn lle magodd ei ddiddordeb ym myd natur. Gwnaeth radd mewn Ecoleg yn Llundain cyn dychwelyd i Gymru.

Gweithiodd i'r Gymdeithas Gwarchod Adar am bron i 15 mlynedd cyn gadael i wneud rhaglenni natur ar y teledu â'r radio.

Erbyn heddiw, mae'n arwain teithiau bywyd gwyllt i'r Alban, Sbaen, India, Patagonia a De Affrica ac yn awdur ar saith o lyfrau ar fyd natur. Mae'n briod â Ceri ac yn dad i ddau o fechgyn, Dewi a Tomos.

Beth yw eich atgof cyntaf/hoff atgof o'r Urdd?

Fy atgof cyntaf o'r Urdd yw cystadlu yn aflwyddiannus ar yr adrodd yn Eisteddfod Cylch yr Urdd Llanerfyl. Teg dweud nad oeddwn i'n dda iawn!

Un arall fu'n llawer mwy llwyddiannus na fi ar yr un diwrnod oedd y gantores Siân James. Y chwaraeon oeddwn i'n eu mwynhau yn fwy na dim byd arall, ac yn bennaf y pêl-droed â'r rygbi, doeddwn i ddim yn Eisteddfotwr!

Disgrifiwch y profiad o gystadlu yn yr Eisteddfod i berson o'r gofod

Profiad rhyfedd oedd y cystadlu i mi, gyfystyr â rhoi dy hun mewn sefyllfa lle gall rhywun chwerthin am dy ben ar lwyfan o flaen cannoedd o bobl!

Disgrifiad o’r llun,

Byddai Iolo Williams yn hoffi i'r eisteddfod gynnal cystadleuaeth yn ymwneud â bywyd gwyllt

Yw'r profiad o gystadlu wedi bod o fudd yn eich bywyd proffesiynol?

Heb os, mae cystadlu fel rhan o chwaraeon yr Urdd wedi bod yn help mawr. Mae'n rhoi hyder i ti, ac yn dy ddysgu mai cystadleuaeth ydi bywyd. Rydych yn cystadlu yn erbyn pobl o hyd, ar gyfer swyddi ac yn y blaen. Y peth mawr i fi yw ennill, dwi yn gollwr sâl!

Pa gystadleuaeth newydd hoffech chi ei gweld yn rhan o'r Eisteddfod?

Fel rhywun efo fy nghefndir i, hoffwn weld rhywbeth i'w wneud â bywyd gwyllt a chefn gwlad. Efallai y darlun neu lun bywyd gwyllt gorau, yn enwedig o ystyried y cefndir o ail-gysylltu plant Cymru efo'r byd sydd o'u cwmpas.

Disgrifiwch ardal Brycheiniog a Maesyfed i bobl sydd erioed wedi bod yna o'r blaen

Mae canolbarth Cymru yn le unigryw, ac yn wahanol i unrhyw le arall. Mae'n llawn pobl gyfeillgar, sy'n gymysgedd o Gymry Cymraeg a theuluoedd sydd wedi bod yn ddi-Gymraeg ers cenedlaethau.

Y tirlun yw un peth nodedig, nid yw'n garegog, uchel a hardd fel Eryri, ond yn fryniau addfwyn. Yn wir, gellir ymestyn ymadrodd mwynder Maldwyn i lawr ar hyd Powys i gyd.

Dewch i'r Eisteddfod, ond cymerwch amser i fynd allan i fwynhau'r ardal o'i chwmpas. Rydych yn dod i un o ardaloedd hyfrytaf Cymru, peidiwch gwastraffu'r cyfle!

Beth, yn eich barn chi, yw'r peth gorau am yr Urdd?

Pan o'n i'n ifanc, y merched! Dyna pam o'n i'n mynd i'r Eisteddfodau! Ond wrth gwrs, y peth mae'r Eisteddfod yn gallu ei roi i blant a phobl ifanc yw hyder. Mae rhywun yn cwrdd â phlant o bob cefndir a phob rhan o Gymru, rhywbeth sy'n bwysig tu hwnt.