Aelodau undeb Unite 'ddim am gael eu dylanwadu'

  • Cyhoeddwyd
Andy Richards
Disgrifiad o’r llun,

Mae undeb Unite yn "hapus gyda'r drefn bresennol" medd Andy Richards

Mae arweinydd undeb mwyaf Cymru wedi mynnu na fydd yr aelodau yn cael eu dylanwadu i newid eu meddyliau ynglŷn â sut i ethol arweinydd nesaf Llafur Cymru.

Dywedodd Andy Richards, ysgrifennydd Unite Cymru, bod trafodaeth i'w chael ynglŷn â'r rheolau i ethol olynydd Carwyn Jones.

Roedd yn siarad gyda BBC Cymru yng nghynhadledd TUC Cymru yn Llandudno.

Fe wnaeth Mr Jones hefyd annerch arweinwyr yr undebau am y tro olaf cyn iddo gamu o'r neilltu ym mis Rhagfyr.

Mae dadlau brwd wedi bod ynglŷn ag os ddylai'r blaid gadw ei choleg etholiadol neu ddefnyddio trefn un aelod un bleidlais.

Dywedodd Mr Richards: "Ar hyn o bryd, safbwynt Unite Cymru yw ein bod ni'n defnyddio'r coleg etholiadol, a dyna ni."

Ychwanegodd mai ei gyfrifoldeb ef oedd cynrychioli diddordebau'r undeb "ac rydym ni'n hapus gyda'r drefn bresennol".

Tegwch yn y gweithle

Dywedodd Mr Jones y bydd yn rhaid i'r blaid ystyried y rheolau ar gyfer yr etholiad dros y misoedd nesaf.

Yn ei araith, dywedodd hefyd byddai'r llywodraeth yn defnyddio eu holl bwerau i sicrhau bod tegwch yn y gweithle.

Mae disgwyl i gomisiwn ar y pwnc adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru yng ngwanwyn y flwyddyn nesaf, ar ôl iddo ildio'r awenau.

Dywedodd hefyd bod y llywodraeth yn barod i wrando ar bryderon ynglŷn â datganoli'r cyfrifoldeb dros gyflogau athrawon.

Cafodd gymeradwyaeth ar ôl iddo addo y byddai swyddog diogelwch ar bob trên ar rwydwaith trenau Cymru a'r Gororau.

Cyhoeddwyd yr wythnos hon mai KeolisAmey fydd yn rhedeg y gwasanaethau o fis Hydref, ond dywedodd Mr Jones y byddai'r llywodraeth - sydd wedi addo rheilffordd ddielw - wedi hoffi newidiadau pellach petai'r pwerau wedi cael eu datganoli iddynt.