Miss Urdd: Cariad cyfrinachol arwr cenedlaethol

  • Cyhoeddwyd

Mae pawb yn 'nabod Mistar Urdd (yn ei goch, gwyn a gwyrdd) ond oeddech chi'n gwybod fod ganddo gariad?

Y cyflwynydd Rhodri Llywelyn yw perchennog balch yr unig Miss Urdd mewn bodolaeth, a hynny ers 1978.

Cafodd Rhodri'r tedi pan oedd ond ychydig fisoedd oed. Yn ystod Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn honno yn Llanelwedd, roedd ei dad, Huw Llywelyn Davies, yn cyflwyno ar gyfer rhaglen deledu Y Dydd.

Roedd y rhaglen wedi penderfynu fod Mistar Urdd yn edrych braidd yn unig, felly cafodd cariad ei chreu ar ei gyfer.

Ar ddiwedd y ffilmio, Rhodri oedd y bachgen bach lwcus a gafodd ei chadw, ac mae wedi bod yn ei thrysori ers hynny!

Disgrifiad o’r llun,

Cyfeillion oes - Mistar Urdd, Rhodri Llywelyn a Miss Urdd

Dydi Miss Urdd druan ddim wedi bod yn llygad y cyhoedd ers blynyddoedd lawer bellach, ond mae'n bosib y bydd hi'n cael mynd am dro i'r Eisteddfod eleni, gan ei fod yn dychwelyd i Lanelwedd, lle dechreuodd y cyfan.

Efallai ei bod hi'n 40 oed erbyn hyn (sy'n hen mewn oedran tedis), ond mae hi'n dal i edrych yn ddigon o sioe!