Plac i nodi streic Friction Dynamics yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd

Mae plac i nodi un o'r anghydfodau diwydiannol hwyaf yn hanes Cymru wedi cael ei ddadorchuddio yng Nghaernarfon.
Yn ystod streic Friction Dynamics bu gweithwyr yn picedu'r ffatri am bron 1,000 o ddiwrnodau rhwng Ebrill 2001 a Rhagfyr 2003.
Ond er iddynt ennill tribiwnlys diwydiannol chawson nhw ddim iawndal.
Roedd yna rali i gydfynd â dadorchuddiad y plac, tebyg i'r un a gafodd ei chynnal gan y gymuned leol i gefnogi'r gweithwyr.
Anghydfod tair blynedd
Ferodo oedd enw'r ffatri yn wreiddiol ac fe agorodd yn 1962 gan gyflogi dros 2,000 o weithwyr i gynhyrchu darnau ar gyfer y diwydiant ceir.
Yn 1997 cafodd y ffatri ei hailenwi yn Friction Dynamics gan y perchennog newydd o America - Craig Smith.
Erbyn hynny dim ond 220 oedd yn cael eu cyflogi yn y ffatri.

Cyn arweinydd undeb TGWU Bill Morris yn talu teyrnged i'r streicwyr yng Nghaernarfon
Suro wnaeth y berthynas rhwng y perchennog newydd a rhai o'r gweithlu ac yn Ebrill 2001 fe ddechreuodd aelodau o undeb y TGWU weithredu'n ddiwydiannol mewn anghydfod ynglŷn ag amodau gwaith.
Fe bicedodd aelodau'r undeb y ffatri wedi iddynt gael eu cloi allan ac wyth wythnos yn ddiweddarach fe gafodd y rheolwyr wared o aelodau'r TGWU ac fe arweiniodd hynny at anghydfod a barodd am dair blynedd.

Ym mis Hydref 2002 daeth tribiwnlys cyflogaeth i'r casgliad bod y gweithwyr wedi cael eu diswyddo yn annheg.
Ond cyn i unrhyw iawndal gael ei dalu fe alwodd Friction Dynamics y derbynwyr yn Awst 2003 ac fe gafodd pob un o'r gweithwyr eu sacio.
O fewn tair wythnos roedd Mr Smith wedi sefydlu cwmni newydd o'r enw Dynamex Friction.
Fe ddaeth picedwyr undeb y TGWU â'u protest i ben yn ystod Nadolig 2003.

Er i'r undeb, sydd bellach yn rhan o Unite, barhau i ymgyrchu am iawndal, fe roddodd y streicwyr y gorau i ymgyrchu yn 2010 a derbyn na fyddent fyth yn gallu cael iawndal gan Mr Smith onibai bod newid yn y gyfraith.
Mae'r plac efydd yn cofio ymdrechion yr 86 o bobl a fu'n rhan o'r anghydfod.
Pwyllgor yn nhref Caernarfon wnaeth drefnu'r plac a gafodd ei greu mewn ffowndri ym Mhowys.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd23 Awst 2012