Gwahardd golffiwr am wneud sylwadau ar y cyfryngau

  • Cyhoeddwyd
Lowri Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lowri Roberts ei bod yn anghytuno gyda'r gwaharddiad ond ei bod yn dymuno symud ymlaen.

Mae golffiwr o Gaerdydd wedi cael ei gwahardd o glwb golff Cottrell Park ger Y Bont-faen am fis am wneud sylwadau "anonest" i'r wasg a'r cyfryngau.

Roedd Lowri Roberts wedi cwyno nad oedd ganddi'r hawl i chwarae ar yr un pryd â'r dynion ar foreau Sadwrn ond roedd y clwb yn mynnu bod gan "aelodau, gwesteion ac ymwelwyr o unrhyw ryw yr un hawliau mynediad" i'w cyfleusterau.

Dywed Ms Roberts bod y penderfyniad yn "rhwystredig" ond bod dim bwriad i'w herio am ei bod eisiau "symud ymlaen" ac am fod y rheolau wedi newid o ganlyniad i'r cyhoeddusrwydd i'w hymgyrch.

Ond mae'r clwb yn dweud eu bod wedi cefnogi ei dymuniad i chwarae ar yr un adeg â'r dynion a'i bod wedi gwrthod ceisiadau i dynnu datganiadau '"anghywir" yn ôl.

Dywed Ms Roberts ar ei chyfrif Twitter bod y clwb wedi'i chael "yn euog o wneud datganiadau anonest i'r cyfryngau a'r wasg... gan ddwyn anfri" ar y sefydliad.

'Saga hir a blinderus'

"Fy nghosb yw mis o waharddiad," meddai, gan ychwanegu y bydd ei thaliadau aelodaeth yn cael eu had-dalu ystod y gwaharddiad, sy'n para tan 8 Mehefin.

Mae hi wedi ysgrifennu at y clwb yn "anghytuno 100% gyda'r honiadau a'r penderfyniad".

Ffynhonnell y llun, Lowri Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n amhosib i Lowri Roberts gymryd rhan mewn cystadlaethau canol wythnos am ei bod yn gweithio llawn amser.

"Mae hwn yn benderfyniad rhwystredig, ond mewn ymgais i symud ymlaen rydw i am ganolbwyntio ar groesawu'r ffaith fod y rheolwr gyfarwyddwr, oherwydd sylw'r cyfryngau, wedi ailgyflwyno is-ddeddf sy'n caniatáu mynediad cyfartal i bob aelod gystadlu ar fore Sadwrn ar amser ac ar faes o'u dewis.

"Mae hwn yn wedi bod yn saga hir. Mae wedi bod yn flinderus ac wedi achosi i mi ddymuno rhoi'r gorau ar chwarae golff sawl tro.

"Fodd bynnag, mae synnwyr cyffredin wedi gorchfygu yn fy nghlwb i ac mae'r mater yma, o ganlyniad, yn cael ei drafod gan lawer o glybiau eraill hyd a lled y wlad."

Ychwanegodd y bydd yn parhau i ymgyrchu dros hawl ferched i gystadlu ar yr un telerau â dynion mewn clybiau eraill.

'Camadrodd y stori'

Roedd Ms Roberts, sy'n aelod ers 2015, wedi ceisio newid y rheolau am ei bod hi'n methu â chwarae yng nghystadleuaeth y merched ganol wythnos a hithau'n gweithio llawn amser.

Wrth gadarnhau'r dyfarniad a'r gwaharddiad, dolen allanol, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y clwb David Johns-Powell eu bod "wedi cefnogi Lowri Roberts drwy roi gwybod i adran y dynion bod is-reol yn caniatáu iddi chwarae gyda'r dynion yn ystod eu cystadleuaeth".

"Fe ddaeth y gwrandawiad hefyd i'r casgliad fod Lowri Roberts wedi defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol a'r wasg i gamadrodd y stori i siwtio'i hagenda ei hun, a'i bod wedi gwrthod cywiro datganiadau anghywir.

"Mae Ms Roberts wedi bod yn chwarae gemau cystadleuol yn yr oriau brig ar foreau Sadwrn.

"Doedd ei hymgyrch ddim yn cael ei gefnogi gan unrhyw aelod benywaidd arall yn y clwb.

"Penderfyniad y gwrandawiad oedd I wahardd Lowri Roberts rhag chwarae golff yn Cottrell Park am fis," meddai.