Math Roberts yn cipio'r Fedal Gyfansoddi
- Cyhoeddwyd
Enillydd Y Fedal Gyfansoddi yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2018 yw Math Roberts o Gwm-y-Glo , Gwynedd.
Mae'n astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Lincoln, Prifysgol Rhydychen.
Y wobr yw Medal Goffa Grace Williams.
Rhoddwyd y wobr am un o bedair tasg, sef cylch o ganeuon ar eiriau Cymraeg, rhangan neu gytgan ar eiriau Cymraeg, cyfansoddiad i un neu ddau offeryn neu gyfansoddiad i ensemble offerynol.
Dywedodd y beirniad Meirion Wynn Jones: "Mae 'Huwcyn' {ffugenw) yn defnyddio iaith gerddorol soffistigedig sy'n dangos dealltwriaeth lwyr o iaith gerddorol yr 21ain ganrif.
'Barrau olaf hardd'
"Mae'r darn yn daith go iawn - symudiad agoriadol yn adeiladu at uchafbwynt pwerus, tour-de-force o symudiad canol (wyth ar hugain tudalen o gerddoriaeth fyrlymus, liwgar ac egniol), cyn i'r triptych trawiadol yma gloi gyda miwsig mwy corawl ei arddull, i greu naws fyfyriol a thyner.
"Mae barrau ola'r darn yn wirioneddol hardd, ac mae un yn synhwyro yn y cordiau terfynol yr emosiynau sy'n dod weithiau gyda cholled neu brofedigaeth.
"Dyma ychwanegiad gwerthfawr at y répertoire pianyddol Cymreig. Mae 'Cwsg' yn ddarn sy'n haeddu cael ei lwyfannu," meddai.
Dros y blynyddoedd mae Math wedi bod yn wyneb cyfarwydd mewn eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol ac enillodd Y Rhuban Glas Offerynnol dan 19oed yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau, ac yntau ond yn 16 oed.
Roedd Elan Richards yn ail a Lewis Moren yn drydydd yn y gystadleuaeth.