Yr Urdd yn ystyried cael un safle parhaol 'aml bwrpas'

  • Cyhoeddwyd
Logo Croeso

Mae'r Urdd wedi cadarnhau fod trafodaethau mewnol ers haf diwethaf ynglŷn â'r posibilrwydd o gael "maes aml bwrpas" i gynnal yr Eisteddfod.

Dywedodd y mudiad mai dyma'r tro cyntaf erioed iddyn nhw "gynnal arolwg o'r penderfyniad sylfaenol hwnnw" i deithio i safle gwahanol o flwyddyn i flwyddyn.

Maen nhw'n dweud y gallai sefydlu safle parhaol olygu cynnal Eisteddfod yr Urdd yno, yn ogystal â digwyddiadau eraill y mudiad a sefydliadau eraill.

Dywedodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, y bydd y mater yn mynd o flaen Bwrdd yr Eisteddfod ym mis Gorffennaf "gydag awgrym i Gyngor yr Urdd bod y mudiad yn comisiynu astudiaeth fanylach, astudiaeth dichonoldeb i'r posibilrwydd o leoli Eisteddfod yr Urdd mewn un lleoliad".

Ychwanegodd: "Os mai'r bwriad yw cynnal gŵyl lwyddiannus mewn ardaloedd gwahanol yn flynyddol, yna rydym yn llwyddo.

"Ond a ydym yn datblygu'r celfyddydau? A ydym yn sicrhau mwy o gyfleoedd i'n plant a phobl ifanc o dan y drefn bresennol? Oes 'na ddatblygiad celfyddydol?"

Aled Sion

Mae sesiynau trafod mewnol ynghylch manteision ac anfanteision opsiynau gwahanol wedi eu cynnal ers Gorffennaf 2017 gan gynnwys aelodau pwyllgorau canolog a rhanbarthol yr Urdd, staff y mudiad a rhanddeiliad eraill.

Mae'r drafodaeth wedi cyfeirio at faterion ariannol presennol yr Eisteddfod a chost blynyddol adeiladu'r maes a chynnal yr Eisteddfod.

Dywed yr Urdd eu bod hefyd wedi rhoi ystyriaeth i'r cyfloedd posib "pe bai'r Urdd yn berchen ar faes aml bwrpas i gynnal nid yn unig Eisteddfod yr Urdd a digwyddiadau eraill yr Urdd, ond hefyd digwyddiadau amrywiol eraill gan sefydliadau eraill, a hefyd bod darpariaeth ar gyfer hamddena, lletya, cynadledda, ac yn y blaen".

Dywedodd Helen Greenwood, cyn swyddog gyda'r Urdd yn rhanbarth Gwent, "Dwi ddim yn gweithio i'r Urdd nawr ond dwi yn byw mewn ardal sydd wedi manteisio yn fawr ar y ffaith fod yr Eisteddfod wedi bod yna, mwy o ysgolion yn cystadlu mwy o ymwybyddiaeth o Gymreictod a byddai'n well gen i os oes yna bosibilrwydd o gwbl i weld y Steddfod yn parhau i drafeilio o ardal i ardal."