Mirain Alaw Jones yn ennill y Fedal Ddrama

  • Cyhoeddwyd
medalFfynhonnell y llun, S4c

Mirain Alaw Jones o gylch Canol Caerdydd yw enillydd Y Fedal Ddrama, prif seremoni'r dydd yn Eisteddfod Brycheiniog a Maesyfed yn Llanelwedd.

Bydd yn cael cyfle i dreulio amser yng nghwmni'r Theatr Genedlaethol a derbyn hyfforddiant gyda'r BBC.

Bydd cyfle hefyd i ddatblygu ei syniadau gyda Choleg Prifysgol y Drindod Dewi Sant.

Roedd yn fuddugol am gyfansoddi drama lwyfan ac un a rhwng 40-60 munud i'w pherfformio.

Chwech a ymgeisiodd am y brif wobr ddrama eleni.

Dywedodd Luned Aaron ar ran y beirniaid - hi ac Aled Jones Williams - fod gwaith 'Tŵit-ahŵ' yn cynnwys "deialog byrlymus a sgwrsio penigamp" sy'n cyffwrdd â byd newyddion ffug.

Roedd yn "ddrama sy'n llawn o haenau" gan fentro i fyd sinistr ar adegau wrth drafod byd y cyfryngau cymdeithasol.

Iaith, rygbi a chanu!

Daw Mirain yn wreiddiol o Gapel Seion yng Nghwm Gwendraeth, gan fynychu ysgolion Pontyberem a Maes yr Yrfa.

Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd gan ganolbwyntio ar ysgrifennu creadigol a sgriptio

Yn wyneb cyfarwydd i nifer, bu'n actio cymeriad Lois ar Pobol y Cwm am wyth mlynedd,

Mae hi nawr yn gweithio gyda Menter Iaith Merthyr Tudful, yn chwarae rygbi i dîm rygbi Cymry Caerdydd ac mae'n aelod o gôr merched y brifddinas.

Datblygodd ei diddordeb mewn ysgrifennu yn yr ysgol tra'n astudio Drama a Chymraeg gyda Carys Edwards a Dr Non Evans. Astudiodd radd israddedig a meistr yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd gan ganolbwyntio ar ysgrifennu creadigol a sgriptio dan fentoriaeth Dr Llŷr Gwyn Lewis a Ceri Elen.

Mae wedi bod yn rhan o gynlluniau ar gyfer dramodwyr ifanc gan gynnwys 'Sgript i Lwyfan' ac yn fwy diweddar gyda Chwmni Theatr 'Mewn Cymeriad'.