Gwobr Eisteddfod i fachgen fu farw mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
urdd

Fe ddaeth i'r amlwg yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ddydd Mercher bod bachgen fu farw mewn gwrthdrawiad ffordd ddechrau mis Mai wedi ennill un o wobrau gwaith cartref yr Eisteddfod.

Bu farw Tristan Silver, 11 oed o ardal Tregaron, mewn gwrthdrawiad ar yr A485 rhwng Olmarch a Thregaron ar 4 Mai.

Datgelwyd fod Tristan, oedd yn ddisgybl yn Ysgol y Deri, Llangybi, wedi cystadlu yng nghystadleuaeth 'Creu Ap i Ddisgyblion Bl.6 ac Iau' gyda'i gyfaill Nile Hyde a'u bod wedi ennill.

Roedd Tristan hefyd yn rhan o grŵp ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth 'Creu Gwefan i Ddisgyblion Bl.6 ac Iau'.

Cafodd Tristan ei gofio mewn seremoni yn Stiwdio 3 ar y maes ddydd Mercher.