Teyrnged i feiciwr modur wedi gwrthdrawiad ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Gareth Wyn RobertsFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae teulu beiciwr modur fu farw mewn gwrthdrawiad ar Ynys Môn ddydd Mercher wedi talu teyrnged iddo.

Bu farw Gareth Wyn Roberts, 53 oed o Gaergybi, yn y fan a'r lle wedi gwrthdrawiad rhwng beic modur a char Ford Focus ym Mae Trearddur.

Roedd yn gweithio fel cymhorthydd dysgu yn Ysgol y Bont, Llangefni, yn chwarae'r gitâr a'r drymiau ac yn aelod o grŵp lleol Section 3.

Dywedodd ei deulu ei fod yn "ŵr a thad rhagorol i ddau o blant".

"Roedd Gareth wastad â golwg hapus ar y byd ac roedd ganddo nifer fawr o ffrindiau," meddai ei wraig, Jemma.

"Mae'r bechgyn a minnau'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth rydym wedi ei chael ac fe ofynnwn am lonyddwch er mwyn dod i delerau â'n colled anferthol."

Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd tua 11:30 ar Lôn Sant Ffraid, ac yn apelio am wybodaeth.