Ymgais i daclo problemau iechyd meddwl yn y gweithle
- Cyhoeddwyd
Fe allai taclo problemau iechyd meddwl yn y gweithle arwain at gynnydd mewn cynhyrchiant a lleihau salwch gweithwyr yn ôl arbenigwyr.
Mae cyflogwyr yng Nghymru yn colli £292m y flwyddyn mewn diwrnodau coll, ac mae hanner holl ddiwrnodau salwch o ganlyniad i bwysau gwaith, pryder ac iselder.
Mae undeb TUC Cymru wedi ymgymryd â gwaith i wella iechyd yn y gweithle, gan gynnwys taclo problemau iechyd meddwl, bwlio ac aflonyddu rhywiol.
Mae'n debygol o olygu y byddai undebwyr yn pwyso am well addysg, mwy o fuddsoddiad ac ymrwymiad gan weithwyr, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ymateb i broblemau iechyd meddwl.
'Gwendid'
Mae gwaith ymchwil yn dangos y gallai problemau o'r fath godi mewn gweithleoedd ym mhob rhan o'r wlad.
Un diwydiant sydd wedi profi cyhuddiadau o aflonyddu rhywiol, ymosod a thrais yn erbyn nifer o actorion yw'r diwydiant adloniant.
Mae undeb sy'n cynrychioli actorion, Equity, wedi bod yn pwyso i gael hawliau i weithwyr gan gynnwys lobïo cyflogwyr a chefnogwyr y diwydiant adloniant fel Llywodraeth Cymru i "gydnabod eu cyfrifoldeb o lês tuag at weithwyr yn erbyn bwlio ac aflonyddu yn y gweithle".
Dywedodd Abbie Hirst o Bwyllgor Cenedlaethol Equity Cymru fod problemau iechyd meddwl, bwlio ac aflonyddu rhywiol yn bwnc anodd i actorion o ganlyniad i natur eu gwaith, sy'n aml yn cynnwys cytundebau tymor byr.
Dywedodd nad yw pobl eisiau dweud eu bod yn pryderu neu'n dioddef o iselder gan ei fod yn cael ei weld fel "gwendid" ac yn arwydd nad yw pobl yn gallu "ymdopi gyda phwysau".
Siarad yn gyhoeddus
Yn ôl y cyfreithiwr cyflogaeth, Bethan Darwin, does dim disgwyl unrhyw her gyfreithiol i daclo problemau fel bwlio ac aflonyddu rhywiol gan fod cyfreithiau eisioes mewn grym, ac mae gweithwyr a chyflogwyr yn fwy ymwybodol ohonyn nhw.
Mae posib i weithwyr a chyflogwr ddod i gytundeb preifat mewn rhai achosion ond yn aml mae'r rhain yn cynnwys cytundebau diffyg datgelu (non-disclosure agreement) sy'n gwahardd gweithwyr rhag siarad yn gyhoeddus ynglŷn â beth ddigwyddodd.
Mae'r mathau yma o gytundebau wedi'u beirniadu am atal problemau mewn busnesau rhag dod i amlygrwydd a chael eu datrys.
Yn ôl y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch, cyfanswm gwaith unigolyn yw'r prif reswm dros iselder a phryder, gyda diffyg cefnogaeth gan reolwyr, trais, bygythiadau a bwlio yn resymau eraill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2018