Agor gwarchodfa natur ar safle hen chwarel yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Chwarel MineraFfynhonnell y llun, Simon Mills | Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Mae chwarel calchfaen a gaewyd yn 1994 wedi ailagor i'r cyhoedd fel gwarchodfa natur ar ôl chwe blynedd o waith adfer ar y safle.

Cafodd £100,000 ei roi gan Tarmac, cyn-berchnogion Chwarel Minera ger Wrecsam, i helpu Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru gyda'r prosiect o drawsnewid y safle.

Bu'r chwarel yn weithredol am dros 200 mlynedd cyn i'r gwaith ddod i ben dros 20 mlynedd yn ôl.

Yn ôl rheolwr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Frances Cattanach, bydd modd i bobl fwynhau'r warchodfa newydd am "genedlaethau i ddod".

Cafodd yr holl waith adfer ei wneud gan yr ymddiriedolaeth natur a'i chefnogwyr.

Mae ardaloedd o'r warchodfa eisoes wedi cael eu hamlygu fel ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig.