Marwolaethau beicwyr modur yn y gogledd wedi cynyddu
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o feicwyr modur wedi marw ar ffyrdd gogledd Cymru eleni na thrwy gydol 2017.
Bu farw'r wythfed beiciwr mewn gwrthdrawiad ym Mae Trearddur, Ynys Môn, fore Mercher.
Yn 2017, bu farw saith o feicwyr modur ar ffyrdd y gogledd, a'r cyfanswm oedd wyth ar gyfer 2016 i gyd.
Yn ôl Sarjant Trystan Bevan o Heddlu'r Gogledd, mae'r nifer hyd at ddiwedd Mai eleni yn achosi "pryder".
'Mwy o blismyn ar y ffyrdd'
Mewn ymateb i farwolaeth Gareth Wyn Roberts, 53 o Gaergybi, dywedodd Heddlu'r Gogledd y byddan nhw'n "gyrru mwy o blismyn allan" dros yr wythnosau nesaf.
"Harddwch" gogledd Cymru a'r "tywydd braf" yw rhesymau bod mwy o bobl na'r arfer wedi ymweld â'r ardal yn ôl Mr Bevan.
Mynnodd y Sarjant bod ymgyrchoedd diogelwch yr heddlu yn llwyddo, ond ychwanegodd y bydd mwy o swyddogion o gwmpas y ffyrdd dros y misoedd nesaf i danlinellu pwysigrwydd diogelwch.
Dywedodd: "Bydd mwy o blismyn allan bob penwythnos a gyda'r nos, a' mae Ymgyrch Darwen yn dal i gario 'mlaen gynnon ni"
'Angen siarad efo beicwyr'
"Byddan ni'n gyrru mwy o faniau i wneud yn siŵr bod mwy o bobl yn cadw at reolau'r ffyrdd, ac fe fyddan ni'n trio siarad mwy (efo beicwyr)," meddai.
Wrth gydnabod bod rhai swyddogion heddlu'n "gweithio'n galed iawn i siarad efo beicwyr", dywedodd yr ymgynghorydd diogelwch ffyrdd Tom Jones y gallai'r heddlu wneud mwy "na jyst rhoi'r ofn i rywun."
"Mae angen siarad mwy efo beicwyr," meddai. "Ac mae'n rhaid i ni gael cyrsiau diogelwch sydd ar gael, ac sydd ddim i weld yn bychanu beicwyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2018
- Cyhoeddwyd31 Mai 2018
- Cyhoeddwyd10 Mai 2018