Myfyrwyr yn pleidleisio am swyddog Cymraeg llawn-amser
- Cyhoeddwyd
Mae myfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi pleidleisio o blaid cyflogi swyddog materion Cymraeg llawn-amser i'r Undeb Myfyrwyr.
Gofynnodd y cynnig: "A ddylai swydd y Swyddog Materion Cymraeg Rhan-amser gael ei amnewid â Swyddog Materion Cymraeg Llawn-amser?"
Dros gyfnod o dri diwrnod, pleidleisiodd 681 o fyfyrwyr ar y refferendwm.
Daeth yr ymgyrch 'o blaid' i'r brig gyda mwyafrif o dros 350 pleidlais.
Canlyniadau'r refferendwm yn llawn:
519 o blaid
151 yn erbyn
11 wedi ymwrthod
Er mwyn i'r bleidlais fod yn ddilys roedd rhaid i 3% o'r aelodau fwrw'u pleidlais, sef 598.
Mae'n ddiddorol nodi felly pe byddai'r bobl oedd yn erbyn y cynnig wedi peidio â bwrw'u pleidlais, fe fyddai'r cynnig wedi methu.
Mae'r Swyddog Materion Cymraeg ar hyn o bryd yn rôl rhan-amser a gwirfoddol ond bydd y swydd newydd yn llawn-amser ac yn gyflogedig.
Penodi yn 2019
Dywedodd Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe bod y canlyniad wedi "sicrhau bod llais cryfach o fewn yr Undeb gan y miloedd o siaradwyr Cymraeg sydd ymhlith myfyrwyr Prifysgol Abertawe".
"Bydd y swyddog pan yn weithredol nid yn unig yn codi llais ar ran Cymry Cymraeg ond yn fodd o sicrhau bod gwell mynediad at a dealltwriaeth o'r iaith a'i diwylliant gan holl fyfyrwyr y sefydliad," ychwanegodd.
Bydd canlyniad y refferendwm nawr yn cael ei gyfeirio at Fwrdd Ymddiriedolwyr Undeb y Myfyrwyr am gadarnhad ac yn cael ei brosesu drwy eu pwyllgorau.
Mae disgwyl i'r swyddog Cymraeg llawn amser cael ei penodi yn sgil etholiadau fydd yn digwydd yng Ngwanwyn 2019.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2018
- Cyhoeddwyd2 Mai 2018