Gyrrwr ar ei ffôn 'eiliadau cyn gwrthdrawiad angheuol'
- Cyhoeddwyd
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod gyrrwr yn defnyddio ei ffôn symudol eiliadau cyn lladd dynes feichiog mewn gwrthdrawiad ar yr M4.
Roedd Rebecca Evans, 27 o Ben-y-bont, wyth mis yn feichiog pan gafodd ei lladd mewn gwrthdrawiad ger Port Talbot ym mis Tachwedd 2016.
Cafodd ei mab Cian, oedd yn ddwy oed ar y pryd, ei anafu'n ddifrifol hefyd.
Mae Craig Scott, 51, yn gwadu'r cyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru yn beryglus ac achosi anaf difrifol drwy yrru yn beryglus.
Roedd eisoes wedi pledio yn euog i gyhuddiad llai difrifol o achosi marwolaeth drwy yrru diofal.
'Canlyniadau trychinebus'
Clywodd y llys fod Mr Scott wedi dweud wrth yr heddlu ei fod wedi gorffen galwad llawrydd tua phum munud cyn y gwrthdrawiad.
Mae dadansoddiad o'r ffôn yn dangos fod yr alwad wedi gorffen rhwng 14 a 34 eiliad cyn taro cerbyd Ms Evans.
Roedd Ms Evans, 27, yn teithio gyda'i gŵr Alex, a'i mab Cian ar ei ffordd i'w gwaith gydag elusen ddigartrefedd ar y pryd.
Cafodd y bachgen ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol i'w ben.
Yn ôl yr erlynydd Miss Catherine Richards roedd canlyniadau'r gwrthdrawiad yn "drychinebus".
Clywodd y llys fod Scott yn gyrru tua 70mya a bod dim tystiolaeth fod ymgais wedi ei wneud i arafu'r car ar frys.
Dywedodd Scott fod rhywbeth wedi tynnu ei sylw ar bont cyn y gwrthdrawiad.
Mae'r achos llys yn parhau yn Llys y Goron Abertawe.