Asesiad risg ras feicio angheuol yn 'hollol ddiffygiol'
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed bod digwyddiad yn ystod ras feicio mynydd yn Sir Ddinbych a laddodd un o'r gwylwyr yn un a ddylid fod wedi ei osgoi.
Cafodd Judith Garrett, 29, o Northumberland ei tharo wrth wylio'r ras ar Fferm Tan y Graig ger Llangollen ar 31 Awst 2014, ar ôl i feiciwr golli rheolaeth yng nghanol cyfres o neidiau.
Bu farw'r diwrnod canlynol o anaf difrifol i'w phen.
Mae dau ddyn o Sir Gaerhirfryn a Ffederasiwn Seiclo Prydain wedi pledio'n ddieuog i gyfres o gyhuddiadau iechyd a diogelwch.
Fe wnaeth Michael Marsden wadu methu â chynnal y digwyddiad mewn ffordd oedd yn sicrhau nad oedd pobl yn agored i berygl.
Mae'r ffederasiwn wedi'u cyhuddo o fethu â goruchwylio'r ras a chymeradwyo'r asesiad risg.
Mae'r marsial Kevin Duckworth hefyd wedi'i gyhuddo o fethu â sicrhau iechyd a diogelwch gwylwyr wrth ymlacio ar fat diogelwch yn ystod y ras.
'Lle amlwg i golli rheolaeth'
Wrth amlinellu achos yr erlyniad yn Llys y Goron yr Wyddgrug, dywedodd James Hill QC fod fferm Tan y Graig yn adnabyddus fel un o'r llwybrau beicio mynydd mwyaf heriol yn y DU.
Roedd Mr Marsden, meddai, wedi methu â chynnal asesiad risg priodol ac wedi meddwl "ychydig neu ddim o gwbl" am y peryglon.
Pe byddai'r trefnwyr wedi ystyried popeth yn drylwyr, meddai, fe fydden nhw wedi penderfynu fod ardal y ddamwain "yn le amlwg i feicwyr golli rheolaeth" ac felly'n "ardal i'w hosgoi yn gyfan gwbl".
"Dylid bod wedi amgylchynu a chau'r ardal," ychwanegodd.
"Collodd dynes ifanc iach ei bywyd yn gwneud dim mwy na gwylio digwyddiad chwaraeon."
'Nabod y llwybr yn dda'
Roedd Miss Garrett yn sefyll wrth gyfres o neidiau tua diwedd y llwybr pan gafodd ei tharo wysg ei chefn gan feiciwr a gollodd rheolaeth ar ei feic a gyrru tuag ati ar gyflymder.
Tarodd ei phen ar goeden, ac fe gafodd anaf i'w phenglog a gwaedlif o ganlyniad.
Bu farw'r diwrnod canlynol er gwaethaf ymdrechion parafeddygon yn y fan a'r lle a meddygon uned arbenigol yn Ysbyty Stoke, ar ôl cael ei chludo yno mewn ambiwlans awyr.
Fe ymchwiliodd Cyngor Sir Ddinbych i'r digwyddiad gan ymgynghori â nifer o arbenigwyr annibynnol.
Dywedodd Mr Hill mai un o ganlyniadau mwyaf brawychus yr ymchwiliad oedd bod asesiad risg Mr Marsden yn achos y ras dan sylw yn "hollol ddiffygiol" er ei fod â phrofiad o weithio ar y safle ac yn nabod y llwybr yn dda.
Mae'r achos yn parhau.