Cerdyn dwyieithog i gynnig cymorth i ffermwyr dan bwysau
- Cyhoeddwyd
Mae ysbyty yng Ngwynedd wedi mynd ati i gyhoeddi cardiau dwyieithog mewn ymdrech i gynnig cymorth i ffermwyr sy'n teimlo dan bwysau.
Penderfynodd staff uned allanol Ysbyty Dolgellau gynhyrchu'r cardiau ar ôl siarad ag amaethwyr am y materion sy'n eu poeni.
Mae ystadegau'n awgrymu fod un ffermwr yn lladd ei hun bob wythnos ar gyfartaledd.
Mae'r cardiau'n cynnwys rhif ffôn i wasanaeth cymorth sy'n cael ei reoli gan y Farming Community Network, a'r nod yw eu dosbarthu i bob rhan o Gymru yn y pendraw.
Meddai Anne Thomas, Nyrs Staff yn yr uned wrth BBC Cymru Fyw: "Rydym wedi bod yn gweithio efo dynion ynglŷn â'u hiechyd yn gyffredinol, ond wrth siarad efo ffermwyr, mi ddaethon ni i sylweddoli bod yna angen mawr i roi cymorth iddyn nhw o safbwynt iechyd meddwl.
"Pan ddaru ni sylweddoli hyn, roedd yn rhaid i ni wneud rhywbeth am y peth."
Drwy gydweithio efo'r elusen The Farming Community Network, maen nhw wedi cynhyrchu cardiau dwyieithog sydd yn hysbysebu llinell gymorth yr elusen, sydd ar agor rhwng 07:00 a 23:00 bob dydd o'r flwyddyn.
Llinell gymorth ydi hon sy'n cael ei rhedeg gan ffermwyr i ffermwyr.
Y nod ydi dosbarthu'r cardiau mewn llefydd cyhoeddus drwy Gymru, fel bod ffermwyr yn gallu cael gafael arnyn nhw ym mhob man, ac yn gallu ffonio'r llinell gymorth os ydyn nhw angen gair efo rhywun am bob math o broblemau.
Straen mawr
Wrth groesawu'r cardiau, dywedodd Geraint Davies, Cadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru ym Meirionnydd (FUW), bod ffermwyr dan straen mawr y dyddiau hyn.
"Mae ansicrwydd Brexit a thywydd eithafol y gaeaf yn gadael ei farc," meddai, "ac mae ffermwyr yn bobol balch sydd ddim yn ei chael hi'n hawdd i rannu eu gofidiau efo eraill.
"Y neges yw bod yna rywun ar ben arall y llinell gymorth i wrando ac i gynnig cymorth.
"Peidiwch a dioddef yn dawel."
A rhif ffon y linell arbennig ydi 03000 111 999.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd11 Mai 2017