Cyhoeddi wyth newid i'r tîm ifanc a drechodd De Affrica

  • Cyhoeddwyd
Cory HillFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cory Hill yn gapten ar Gymru am y tro cyntaf ddydd Sadwrn

Cory Hill fydd yn arwain Cymru yn erbyn yr Ariannin ddydd Sadwrn wrth i Warren Gatland wneud wyth newid i'r tîm a drechodd De Affrica.

Mae mwy o brofiad yn y tîm o'i gymharu â'r 15 a wynebodd De Affrica yn Washington ddydd Sadwrn, wrth i nifer o wynebau cyfarwydd ddychwelyd.

Gareth Davies fydd yn dechrau fel mewnwr, gyda Rhys Patchell, Scott Williams a Hadleigh Parkes yn ymuno ag ef yn yr olwyr.

Bydd George North yn dychwelyd i'w safle arferol ar yr asgell hefyd wedi iddo chwarae fel canolwr yn erbyn De Affrica.

'Cyfle i bawb'

Dyma'r cyntaf o ddwy gêm brawf yn erbyn yr Ariannin.

Yn ôl Gatland, mae cymaint o newidiadau i'r tîm er mwyn "rhoi gymaint o gyfleoedd a phosib i'r garfan i gyd" yn ystod y daith.

"Mae yna nifer o chwaraewyr ifanc cyffrous yn y garfan ac mae dydd Sadwrn yn gyfle i barhau i adeiladu ar eu profiad o fod ar daith o'r fath" meddai'r prif hyfforddwr.

Y blaenwr Aaron Wainwright yw'r unig un yn y garfan sydd dal heb ennill cap, a fe fydd yntau'n dechrau'r gêm ar y fainc.

Bydd tîm Gatland yn wynebu'r Pumas yn Estadio San Juan del Bicentenario, San Juan am 20:40 BST ddydd Sadwrn.

Tîm Cymru

Hallam Amos; Josh Adams, Scott Williams, Hadleigh Parkes, George North, Rhys Patchell, Gareth Davies; Wyn Jones, Elliot Dee, Dillon Lewis, Adam Beard, Cory Hill (c), Seb Davies, James Davies, Ross Moriarty.

Eilyddion: Ryan Elias, Rob Evans, Tomas Francis, Josh Turnbull, Aaron Wainwright, Aled Davies, Gareth Anscombe, Owen Watkin.