Bwyty'n 'fan diogel' i fachgen â phroblemau iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth bachgen â phroblemau iechyd meddwl dreulio chwe awr mewn bwyty McDonalds yng Nghaerfyrddin fel rhywle diogel i aros, yn ôl AC Ceidwadol.
Dywedodd Angela Burns yn ystod gwrandawiad o bwyllgor iechyd y Cynulliad nad oedd "unrhyw le arall" gan y bachgen i fynd.
Fe wnaeth ACau fynegi pryderon i gynrychiolwyr o'r byd iechyd ynglŷn â safon y ddarpariaeth iechyd meddwl ar gyfer plant.
Cyfaddefodd un swyddog fod y sefyllfa'n "fwy heriol" y tu allan i oriau gwaith arferol.
Gofynion plant
Roedd Ms Burns, aelod Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, yn un o'r ACau fu'n holi cynrychiolwyr gwasanaethau iechyd meddwl ddydd Iau.
Dywedodd: "Dwi jyst eisiau sôn am fachgen ifanc o fy etholaeth i, ei le ef mewn argyfwng oedd McDonalds yng Nghaerfyrddin.
"Doedd unman arall ar gael iddo a dyna ble wnaethon nhw ei gadw..."
Dywedodd Rhiannon Jones, cyfarwyddwr gofal cymunedol ac iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, ei bod yn gyfarwydd â sefyllfaoedd fel yr un gafodd ei ddisgrifio gan Ms Burns.
"Mae'r achosion rydyn ni wedi gorfod adolygu'n lleol o fewn Powys yn rai yn ymwneud ag argyfyngau gyda phlant, ble dyw'n concordat a'n hymdriniaeth ni ddim wedi bod beth y dylai fod," meddai.
Yn ôl yr AS Llafur Lynne Neagle roedd pryder fod symud tuag at wasanaethau iechyd meddwl pob oed "ddim am gwrdd â gofynion plant yn effeithiol".
"Nid dim ond oedolion bach yw plant. Mae ganddyn nhw anghenion penodol," meddai AC Torfaen.
'Oriau o waith'
Gofynnodd Ms Burns a oedd yr heddlu'n gwybod "i sicrwydd" fod modd canfod "lle diogel" ar gyfer pobl oedd yn dioddef o boen meddwl.
Mewn ymateb dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu'r De, Jonathan Drake: "Dwi'n meddwl ei bod hi'n fwy tebygol y byddech chi'n mynd a nhw i le diogel, ond yna aros gyda nhw am amser hir iawn yn disgwyl iddyn nhw gael eu trosglwyddo, neu ganfod y lle gorau i fynd er mwyn i rywun allu gofalu amdanyn nhw."
Dywedodd y byddai swyddogion yn aml yn aros gyda nhw nes eu bod wedi cael eu hasesu i weld a oedden nhw'n risg i'w hunain neu eraill, neu eu bod nhw'n dianc.
Ychwanegodd Mr Drake y gallai "llefydd diogel" gynnwys tŷ perthynas, neu ysbyty.
Dywedodd y dirprwy brif gwnstabl bod tua 12% o ddigwyddiadau mae'r heddlu'n cael eu galw iddynt bellach yn achosion o argyfwng iechyd meddwl.
Mewn rhai achosion roedd swyddogion yn treulio 36 awr o'u hamser gwaith yn delio ag achosion unigol.
"Dwi'n meddwl bod cyfleoedd i leihau faint o amser mae swyddogion yn treulio gyda phobl mewn argyfwng iechyd meddwl, ond hefyd i gael gweithwyr iechyd meddwl yn rhan o'r broses yn gynt," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2017