Galw am lai o gwpanau plastig tafladwy mewn ysbytai

  • Cyhoeddwyd
Cups at Royal Gwent Hospital canteen

Mae mwy na 31 miliwn o gwpanau plastig tafladwy wedi cael eu prynu gan fyrddau iechyd Cymru dros y pum mlynedd diwethaf, yn ôl ffigyrau newydd.

Mae Llywodraeth Yr Alban wedi gwahardd cwpanau o'r fath yn eu prif adeiladau, ac mae Llywodraeth Cymru wedi addo gwneud yr un peth erbyn 2021.

Dywedodd Cadwch Gymru'n Daclus fod y ffigyrau yn "syfrdanol", ond nad oedden nhw'n synnu chwaith.

Yn ôl y byrddau iechyd maen nhw'n gweithio ar leihau'r defnydd o gwpanau tafladwy, neu i wneud y cwpanau yn fwy ailgylchadwy.

Dyw mwy na 99.75% o gwpanau plastig yn y DU ddim yn cael eu hailgylchu am mai dim ond ychydig iawn o ffatrïoedd arbenigol sy'n gallu eu prosesu.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lesley Jones bod angen "meddwl go iawn am sut i ddatrys y broblem"

Dywedodd prif weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus, Lesley Jones bod nifer y cwpanau a brynwyd yn "gallu gwneud dim ond ein syfrdanu" ond o feddwl am fywyd modern nad oedd y ffigwr yn syndod.

"Mae'n gwneud i chi sylweddoli bod rhaid i ni feddwl go iawn am sut i ddatrys y broblem, a drwy weithio gyda'n gilydd, ei daclo gyda'n gilydd," meddai.

Ychwanegodd fod "cyfrifoldeb ar bawb i wneud y peth iawn" ond fod cyfle i'r byrddau iechyd arwain drwy esiampl.

"Mae cymaint o bobl yn dod i gysylltiad â'n hysbytai ac adnoddau iechyd eraill, ac fe all gael ei ystyried ym meddyliau pobl fel y peth normal i wneud," meddai.

"Rwy'n credu bod cyfle go iawn yma."

'Cymryd camau'

Mae'r ffigyrau diweddaraf - ddaeth i law'r BBC o ganlyniad i gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth - yn cynnwys data gan bob bwrdd iechyd ar wahân i Gaerdydd a'r Fro.

Dyw'r ffigyrau am gwpanau plastig a chardfwrdd ddim yn cynnwys y rhai a brynwyd gan gwmnïau eraill sydd â changhennau mewn ysbytai, megis siopau coffi'r stryd fawr.

Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg brynodd y nifer fwyaf o gwpanau o'r holl fyrddau iechyd - 18.5 miliwn ers Ebrill 2013.

Dywedodd eraill eu bod wedi prynu cwpanau plastig, polystyrene, papur a rhai pydradwy ar gyfer diodydd poeth ac oer.

Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan - brynodd tua 8.7 miliwn o gwpanau dros y pum mlynedd diwethaf - nawr yn cymryd camau i sicrhau bod eu holl ddeunydd pecynnu arlwyo yn medru cael ei ailgylchu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn gobeithio newid i ddefnyddio cwpanau all gael eu defnyddio mewn gwrtaith ac yn y farchnad ynni

Ond mae grwpiau amgylcheddol yn dweud mai cwpanau sy'n gallu cael eu defnyddio sawl gwaith a photeli dŵr aml-ddefnydd ddylai gael eu defnyddio gan gwmnïau a sefydliadau'r sector cyhoeddus.

Mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi dweud eu bod yn cymryd eu cyfrifoldebau amgylcheddol o ddifri, a'u bod yn chwilio am ffyrdd o ddileu'r cwpanau plastig tafladwy y maen nhw'n eu prynu ar gyfer diodydd poeth.

Dywedodd llefarydd: "Rydym hefyd yn ystyried y potensial o gyflwyno cwpanau ailddefnyddiadwy yn ein ffreuturau, a chynnig disgownt i gwsmeriaid a staff sy'n eu defnyddio."

Fis diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog Amgylchedd, Hannah Blythyn gynlluniau i droi Cymru yn "genedl ail-lenwi" cynta'r DU.