Ymddiriedolaeth yn sicrhau dyfodol Castell Gwrych

  • Cyhoeddwyd
Castell Gwrych
Disgrifiad o’r llun,

Mae Castell Gwrych ar bwys lôn orllewinol yr A55

Mae Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych yn dweud fod dyfodol yr hen adeilad hanesyddol bellach yn ddiogel ar ôl sicrhau grant i'w adfer.

Roedd bwriad i werthu'r castell rhestredig Gradd I ger Abergele mewn arwerthiant ym Manceinion ddydd Iau ond fe gafodd y safle ei dynnu'n ôl ar y funud olaf wedi i'r perchennog dderbyn cynnig amdano.

Dywedodd cadeirydd a sylfaenydd yr ymddiriedolaeth, Mark Baker, eu bod bellach mewn sefyllfa i brynu ac adfer yr adeilad ar ôl cael £600,000 gan y Gronfa Goffa Treftadaeth Genedlaethol (NHMF).

Unwaith y bydd gwaith adnewyddu wedi ei gwblhau mae'r ymddiriedolaeth yn gobeithio ailagor y castell am y tro cyntaf ers canol yr 1980au, ac fe fydd yn cyhoeddi'u cynlluniau maes o law.

Dywedodd Mr Baker: "Fel plentyn, roeddwn yn mynd heibio'r castell bob dydd wrth fynd i'r ysgol, ac fe wnes i sefydlu'r ymddiriedolaeth pan yn 11 oed.

"21 mlynedd yn ddiweddarach, rydym mewn sefyllfa i'w brynu a gwireddu ein gweledigaeth."

'Hudolus, er ei gyflwr presennol'

Dywedodd cadeirydd NHMF, Syr Peter Luff bod yna resymau cryf iawn dros gefnogi uchelgais yr ymgeiswyr a chytuno i roi cymorth ariannol.

"Mae Castell Gwrych yn hudolus, hyd yn oed yn ei gyflwr trist presennol," meddai.

"Mae gweledigaeth Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwyrch i adfer yr adeilad ysblennydd yma sydd â hanes cyfoethog a'i ailagor yn ysbrydoliaeth."

Mae'r castell wedi bod yn destun sawl adroddiad y corff ymgyrchu elusennol SAVE Britain's Heritage ac wedi bod "mewn perygl difrifol am 40 mlynedd" yn ôl eu llywydd, Marcus Binney.

Dywedodd eu bod wedi cefnogi ymdrechion Mark Baker o'r dechrau a bod llwyddiant yr ymddiriedolaeth i brynu'r adeilad "yn dangos fod penderfynoldeb, amynedd a dyfeisgarwch yn gallu achub ac adfywio hen adeiladau mawr sydd wedi bod mewn cyflwr truenus am ddegawdau."

Castell GwrychFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych

Mae'r prif adeilad ar gau ers 1985 ar ôl iddo ddirywio ond mae gweddill y safle ar agor i ymwelwyr yn ogystal â'r parc a'r coetir sy'n ymestyn dros 250 erw.

Yn ogystal â'r grant NHMF, sy'n cael ei ddisgrifio fel "darn olaf jig-so ariannol" er mwyn prynu ac adfer y castell, mae'r ymddiriedolaeth hefyd wedi cael swm sylweddol gan Ymddiriedolaeth Elusennol Richard Broyd.

Mae hanes diddorol ac amrywiol i'r castell ers ei godi rhwng 1810 a 1822.

Yn 1924, fe gafodd y safle ei gynnig mewn ewyllys i fod yn gartref i'r Teulu Brenhinol ond fe gafodd y cynnig ei wrthod yn sgil trafferthion economaidd difrifol y cyfnod.

Fe gafodd 200 o blant Iddewig eu cartrefu yno yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac wedi'r rhyfel Castell Gwrych oedd un o'r plastai cyntaf trwy Brydain i agor ei ddrysau i'r cyhoedd.

Fe wnaeth y pencampwr bocsio Randolph Turpin ddefnyddio'r adeilad i hyfforddi yn y 1950au cynnar ac fe gafodd rhan o'r ffilm Prince Valiant - oedd yn cynnwys Edward Fox, Joanna Lumley a Katherine Heigl - ei ffilmio yno.