Tri cyfarwyddwr cwmni adroddiad Tawel Fan yn gadael

  • Cyhoeddwyd
Tawel Fan
Disgrifiad o’r llun,

HASCAS oedd yn gyfrifol am yr adroddiad diweddar ar uned iechyd meddwl Tawel Fan

Mae tri o gyfarwyddwyr corff wnaeth gyhoeddi adroddiad yn ymchwilio i uned iechyd meddwl yn y gogledd bellach wedi gadael eu swyddi.

Fis diwethaf fe wnaeth y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HASCAS) gyhoeddi adroddiad hir ddisgwyliedig i'r amgylchiadau ar ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd.

Fe wnaeth yr ymchwiliad ddod i'r casgliad nad oedd tystiolaeth o gam-drin sefydliadol a bod y gofal yn "o safon dda yn gyffredinol".

Roedd hynny'n mynd yn groes i adroddiad blaenorol gan Donna Ockenden, oedd wedi honni "camdriniaeth sefydliadol" yn yr uned.

Ymddeoliadau

Mae HASCAS bellach wedi cadarnhau bod tri aelod o fwrdd yr elusen wedi camu o'r neilltu am "resymau personol".

Fe wnaeth Christopher Welton adael y bwrdd ym mis Mawrth 2018, ac fe wnaeth Chris Dent a Tina Coldham adael ddiwedd Mai.

Mae prif awdur adroddiad Tawel Fan, Dr Androula Johnstone, hefyd wedi gadael ei rôl ar y bwrdd ond mae'n parhau i fod yn gyfarwyddwr ar gangen elusennol HASCAS, ac yn brif weithredwr ar y corff.

Mewn datganiad dywedodd HASCAS fod dau o'r aelodau wedi gadael oherwydd eu bod yn ymddeol, a bod Dr Johnstone wedi gadael oherwydd "pwysau amser".

"Rydym yn ddiolchgar i Christopher, Chris a Tina am eu hymroddiad, a'r holl waith caled maen nhw wedi'i gyfrannu at ein sefydliad dros eu blynyddoedd o wasanaeth, ac rydym yn dymuno'n dda iddyn nhw yn y dyfodol," meddai HASCAS mewn datganiad.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr nad oedden nhw am wneud sylw ynglŷn â chyfarwyddwyr cwmni preifat.