UNESCO yn cydnabod ysgrif Cymraeg o'r 16eg Ganrif

  • Cyhoeddwyd
Cronicl Elis GruffyddFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Fe fydd ysgrif gan Gymro o'r 16eg Ganrif yn cael ei chydnabod gan gorff treftadaeth y Cenhedloedd Unedig, UNESCO.

Mae Cronicl Elis Gruffydd un o chwe darn o waith sydd wedi'u hychwanegu at Gofrestr Cof y Byd y Deyrnas Gyfunol.

Cafodd y gwaith ei ysgrifennu yn y Gymraeg gan Elis Gruffydd rhwng 1550 a 1552, pan oedd yn filwr oedd yn rhan o warchodlu byddin Lloegr oedd wedi'i leoli yn Calais.

Mae'r cronicl yn sôn am hanes y byd o'r dechrau hyd at ddyddiau'r awdur, ac yn cynnwys ffeithiau hanesyddol, chwedlau traddodiadol o Gymru, a hanesion o gyfnod y Tuduriaid.

Clecs am Harri VIII

Yn ôl Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr a Dirprwy Brif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae'r cronicl yn "gampwaith" ond mae wedi mynd "braidd yn anghofiedig" ymhlith y Cymry.

"Ni ellir gor-bwysleisio pwysigrwydd y pedair cyfrol hyn. Hwn yw'r cronicl naratif mwyaf uchelgeisiol erioed i'w greu yn yr iaith Gymraeg, a dyma'r cyfanwaith rhyddiaith hwyaf yn yr iaith," meddai.

"Cynrychiola hefyd yr enghraifft wybyddus gynharaf o awdur Cymreig, yn ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa Gymreig, y hwnt i'r Deyrnas Gyfunol - er nad oedd, yn llythrennol, yn ysgrifennu y tu hwnt i ffiniau'r Deyrnas Gyfunol ar y pryd."

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Darn o'r cronicl sydd bellach yn cael ei gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol

Cafodd Elis Gruffydd ei eni tua 1490 ym mhlwyf Llanasa, Sir y Fflint, ac roedd yn Babydd cyn troi'n Brotestant pybyr yn ei gyfnod yn Calais.

Bu'n ymladd dros fyddin Lloegr yn yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a Sbaen cyn symud i Calais, oedd dan feddiant Coron Lloegr ar y pryd, yn 1530.

Yno yr ysgrifennodd Elis Gruffydd ei gronicl, oedd yn cynnwys llawer o'i brofiadau personol yn ymladd fel milwr, yn ogystal ag adroddiadau llygad dyst o ddigwyddiadau megis cyfarfyddiad enwog Harri VIII a Ffransis I o Ffrainc yn 1520.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cronicl yn cynnwys sïon o'r llys brenhinol am berthynas Harri VIII ac Anne Boleyn

Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys clecs gweision a morynion y Llys Brenhinol yn Llundain ar faterion megis perthynas Harri VIII ac Anne Boleyn, a gwybodaeth am gwymp Thomas Cromwell.

Does dim gwybodaeth bendant am ei farwolaeth, ond mae'n bosib iddo gael ei ladd pan gipiwyd Calais gan y Ffrancwyr yn 1558.

Bydd ei Gronicl yn cael ei ddangos i'r cyhoedd yn y Llyfrgell Genedlaethol rhwng 30 Mehefin a 8 Rhagfyr fel rhan o arddangosfa o drysorau Plasty Mostyn, Sir y Fflint.