Athrawon ar streic dros ddiswyddiadau posib yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae athrawon yn Sir Benfro ar streic wrth i lywodraethwyr a'r awdurdod lleol wrthod trafodaethau pellach am swyddi yn dilyn uno ysgolion.
Ddydd Mawrth mae aelodau undeb NASUWT o ysgolion Syr Thomas Picton a Tasker Milward yn gwrthwynebu diswyddiadau posib o ganlyniad i uno'r ddau safle.
Roedd yr undeb wedi gwneud cais i gael cyfnod o dair blynedd heb ddiswyddiadau gorfodol, yn ogystal â chyfnod o warchod cyflogau - ond cafodd hynny ei wrthod gan y cyngor.
Yn ôl ysgrifennydd cyffredinol NASUWT, Chris Keates, does gan yr athrawon "ddim opsiwn arall" ond mynd ar streic.
'Anhyblygrwydd amlwg'
Bydd Cyngor Sir Benfro yn cau ysgolion Syr Thomas Picton a Tasker Milward yn Hwlffordd a chreu ysgol newydd i ddisgyblion 11-16 oed sydd i agor ym mis Medi.
Dywedodd Mr Keates y gallai'r cyngor fod wedi osgoi'r streic, ond bod cynnig yr undeb o drafodaethau pellach wedi'i wrthod.
Ar ôl gwrthod y cynnig cyntaf, fe gynigiodd yr undeb i leihau'r cyfnodau heb ddiswyddo gorfodol i ddwy flynedd, gyda thrafodaethau yn parhau ar faterion eraill.
"Petai'r cynnig yna wedi cael ei dderbyn, yna byddai gweithredu fel hyn ddim wedi gorfod digwydd" meddai Mr Keates.
"Wrth wynebu anhyblygrwydd amlwg ac ymateb afresymol does gan yr athrawon ddim opsiwn arall."
Mewn llythyr gan gadeirydd y llywodraethwyr i rieni yr wythnos ddiwethaf, honnai'r awdurdod lleol a'r bwrdd llywodraethu dros dro eu bod nhw am "barhau i weithio gyda'r undeb er mwyn datrys yr anghydfod".