Ymchwiliad i arian elusen roddwyd tuag at gerflun draig

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Maelor Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y siop wedi ei lleoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i siop elusen yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ar ôl iddi fethu â throsglwyddo unrhyw gyfraniadau i'r bwrdd iechyd dros gyfnod o saith mlynedd.

Roedd gan The Frank Wingett Cancer Relief Fund siop yn yr ysbyty tan fis Mawrth, ond doedd y siop ddim wedi gwneud cyfraniad elusennol ers 2011.

Yn hytrach, cafodd £410,000 ei fuddsoddi mewn prosiect i godi cerflun enfawr o ddraig Gymreig ger yr A5 yn Y Waun.

Mae'r Comisiwn Elusennau wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio.

Mae Simon Wingett - yr ymddiriedolwr sy'n rhedeg yr elusen - wedi dweud bod materion teuluol wedi cyfrannu tuag at oedi gyda'r cyfrifon, ac mae'n mynnu eu bod yn cael eu diweddaru.

Cerflun y ddraig

Cafodd yr elusen ei sefydlu gan ei dad, Frank Wingett, i brynu offer ac adnoddau i gleifion canser yn ardal Wrecsam, wedi iddo ddioddef canser y gwddw yn yr 1980au.

Roedd gan yr elusen siop yn Ysbyty Maelor Wrecsam am flynyddoedd, ac yn 2010 fe drosglwyddodd bron i £19,000 ar gyfer cleifion, a £4,500 yn 2011, ond does dim arian wedi cael ei gyfrannu ers hynny.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, roedd wedi cytuno ar y cyd âg ymddiredolwr yr elusen y byddai'n cau'r siop yn yr ysbyty ddiwedd mis Mawrth oherwydd diffyg cyfraniadau ganddi.

Disgrifiad o’r llun,

Yr ymddiredolwr Simon Wingett sydd hefyd yn gyfrifol am brosiect cerflun y ddraig yn Y Waun

Simon Wingett sydd hefyd yn gyfrifol am y cynlluniau i godi cerflun efydd 77 troedfedd o ddraig ar ben tŵr llechen 147 troedfedd, ynghyd â chanolfan ddiwylliannol ger yr A5 yn Y Waun.

Cafodd y cynllun ei gyhoeddi yn 2010 gyda'r bwriad o godi'r cerflun y flwyddyn ganlynol, ond oherwydd trafferthion wrth godi arian ar gyfer y prosiect, mae'r amserlen wedi llithro a maint y cynllun wedi lleihau.

Yn ôl Mr Wingett mae yn y camau olaf o sicrhau'r £2.5m o gyllid o wahanol ffynonellau.

Y llynedd fe gytunodd Cyngor Wrecsam i ymestyn y caniatâd cynllunio oedd wedi dod i ben, am bum mlynedd arall.

£410,000

Yn ôl y cyfrifon diwethaf gafodd eu cyflwyno yn 2014, roedd yr elusen wedi buddsoddi £410,000 yn y prosiect hwnnw.

Mae'r cynllun yn bwriadu codi arian ar gyfer gwahanol elusennau canser, drwy werthu 5,000 o blaciau llechi am £300 yr un i bobl a busnesau eu gosod o amgylch y tŵr o dan y ddraig.

Mae Mr Wingett yn disgwyl i'r rhoddion i elusennau canser gynyddu'n sylweddol unwaith y bydd y cerflun a'r datblygiad o'i gwmpas wedi cael eu cwblhau.

'Pryderon difrifol'

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Elusennau eu bod yn ymchwilio i "bryderon difrifol ynglŷn â rheolaeth a gweinyddiaeth The Frank Wingett Cancer Relief Fund".

"Rydym yn adolygu gwybodaeth sydd wedi ei darparu gan yr ymddiriedolwr, ac wedi gofyn am ragor o wybodaeth ar frys, er mwyn gallu asesu a yw'r elusen yn cydymffurfio â'i dyletswyddau cyfreithiol."

Fe ofynnodd BBC Cymru i'r ymddiredolwr Simon Wingett ynglŷn â'r rhoddion i'r ysbyty, ac a oedd staff yn y siop yn gwybod i ble roedd yr arian yn mynd.

Mewn ebost dywedodd: "Mae pob ymdrech wedi ei wneud, ac yn parhau i gael ei wneud i sicrhau ei fod [prosiect y ddraig] yn dwyn ffrwyth ac yn creu etifeddiaeth elusennol barhaol i ddioddefwyr canser yng ngogledd Cymru, yn ogystal â chreu swyddi a helpu'r economi Gymreig. "

Fe ddywedodd hefyd bod marwolaeth ei fam a salwch ei ferch wedi cyfrannu tuag at oedi gyda'r cyfrifon, a bod y cyfrifon yn cael eu diweddaru.