Dau AS Llafur o Gymru'n gadael mainc flaen y blaid
- Cyhoeddwyd
![Anna McMorrin a Tonia Antoniazzi](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/116F3/production/_102011417_3198d9ab-66a4-4733-b44c-0215539f3a0f.jpg)
Mae Anna McMorrin a Tonia Antoniazzi wedi gadael mainc flaen Llafur
Mae dau Aelod Seneddol o Gymru wedi ymddiswyddo o fainc flaen Llafur i fynd yn erbyn yr arweinyddiaeth ar bleidlais am Brexit.
Mae AS Gwyr, Tonia Antoniazzi, ac AS Gogledd Caerdydd, Anna McMorrin wedi gadael y grŵp Llafur er mwyn pleidleisio o blaid perthynas agosach gyda'r UE.
Fe wnaeth wyth AS Llafur arall o Gymru hefyd bleidleisio o blaid aros yn Ardal Economaidd Ewrop (EEA), fyddai'n golygu aros ym marchnad sengl yr UE.
Roedd Jeremy Corbyn wedi annog ASau Llafur i atal eu pleidlais ond fe wnaeth 75 bleidleisio o blaid a 15 yn erbyn.
Cafodd cynnig Tŷ'r Arglwyddi ar Fesur Ymadael yr UE, fyddai wedi cadw'r DU yn yr EEA, ei drechu yn Nhŷ'r Cyffredin o 327 pleidlais i 126.
'Deall ei bod yn anodd'
Dywedodd Mr Corbyn mewn datganiad ei fod yn deall ei bod yn "anodd" i ASau "sy'n cynrychioli etholaethau wnaeth bleidleisio'n gryf i aros neu adael" i atal eu pleidlais ar y mater o aelodaeth yr EEA.
Ond mynnodd na allai Llafur gefnogi'r mater am nad yw'n credu mai dyna'r "opsiwn cywir" i'r DU.
"Byddai'n ein gadael gyda bron i ddim llais dros ba reolau y bydd rhaid i ni eu dilyn," meddai Mr Corbyn, gan ychwanegu nad yw'n datrys y broblem am y ffin gyda Gweriniaeth Iwerddon chwaith.
Yn gynharach ddydd Mercher fe wnaeth Llafur fethu yn eu hymdrech i geisio sicrhau "mynediad llawn" at farchnad yr UE ar ôl Brexit.