Cartref nyrsio Porthmadog 'heb barchu urddas' cleifion

  • Cyhoeddwyd
Cartref Meddyg Care, Porthmadog

Mae cartref nyrsio yng Ngwynedd wedi cael gorchymyn i wneud gwelliannau ar frys, wedi beirniadaeth hallt o safon y gofal yno gan arolygwyr.

Yn ôl adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru, dydy Cartref Nyrsio Meddyg Care ym Mhorthmadog ddim yn cynnig gofal o'r safon angenrheidiol, a dydy'r cartref ddim bob tro'n parchu urddas a phreifatrwydd y cleifion.

Mae'r arolygwyr yn dweud fod cleifion yn rhannu dillad isaf, ac iddyn nhw weld claf yn cael ei roi ar y toiled gyda'r drws yn cael ei adael yn gil-agored.

Dywed perchnogion cartref Meddyg Care nad yw'r adroddiad yn adlewyrchiad teg na chywir o'r cartref erbyn hyn, a bod gwelliannau sylweddol wedi'u cwblhau ers diwedd 2017.

Oedi cyn ffonio 999

Mae'r arolygwyr hefyd yn feirniadol iawn o driniaeth Thomas Gough Williams, sy'n cael ei adnabod fel Claf A yn yr adroddiad.

Roedd o wedi bod yn dioddef gyda briw ar ei droed, ynghyd â nifer o broblemau meddygol eraill, ac roedd ei deulu'n fwyfwy pryderus am ei gyflwr.

Er i'w feddyg ddweud ei fod angen mynd i'r ysbyty oherwydd achos posib o sepsis, bu'n rhaid iddo aros am bron i saith awr am ambiwlans am nad oedd y staff wedi ffonio 999.

Bu farw yn yr ysbyty 10 diwrnod yn ddiweddarach.

Dywedodd teulu Mr Williams eu bod "wedi eu brawychu" gan y driniaeth ohono sy'n cael ei amlinellu yn yr adroddiad.

Meddyg teulu lleol, Dr Safia Akram, ydy cyfarwyddwr clinigol y cartref, ac mae hi hefyd yn un o gyfarwyddwyr y cwmni sy'n rhedeg y busnes, ynghyd â'r practis meddygol ym Mhorthmadog.

Mae'r adroddiad yn dweud y gallai hynny olygu gwrthdaro buddiannau. Yn ôl y cwmni, maen nhw eisoes wedi rhoi rhybudd eu bod am roi'r gorau i redeg y practis meddygol ym mis Medi.

'Gwelliannau ers diwedd 2017'

Dywedodd perchnogion cartref Meddyg Care nad oedden nhw'n teimlo fod yr adroddiad yn adlewyrchiad teg na chywir o'r cartref erbyn hyn, a'u bod nhw wedi gwneud gwelliannau sylweddol ers iddyn nhw gymryd drosodd yn ystod chwarter olaf 2017.

Yn ôl llefarydd, maen nhw wedi cael cadarnhad gan yr arolygiaeth nad ydyn nhw wedi eu dynodi fel gwasanaeth sy'n destun pryder.

Cafodd yr adroddiad ei lunio yn sgil ymweliadau di-rybudd gan arolygwyr rhwng 8 Chwefror a 22 Mawrth eleni.

Dywedodd y cynghorydd sir lleol, Selwyn Griffiths, sydd hefyd yn Bencampwr Pobl Hŷn Cyngor Gwynedd, ei fod wedi "ei siomi a'i ddychryn" o ddarllen yr adroddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod Meddyg Care wedi ei adnabod fel cartref lle roedd angen gwelliannau dan drefniadau Pryderon Cynyddol Gogledd Cymru ar ddiwedd Ebrill 2018, a bod y cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn gweithio gyda pherchnogion y cartref i sicrhau fod y gwelliannau sydd eu hangen yn cael eu cyflwyno.