Yr Ariannin 12-30 Cymru: Cymru yn ddiguro yn nhaith yr haf
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Cymru orffen tymor yr haf yn ddiguro gyda buddugoliaeth yn erbyn Ariannin yn Santa Fe.
Golyga'r fuddugoliaeth fod Cymru wedi ennill y gyfres o 2-0, a hynny ar ôl curo De Affrica yn Washington D.C.
Cymru oedd yn rheoli'r rhan fwyaf o'r gêm, gyda Rhys Patchell yn sgorio cyfanswm o 20 pwynt mewn perfformiad hyderus.
Hwn oedd y tro cyntaf ers 1999 i Gymru ennill cyfres yn yr Ariannin ac mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Cymru yn symud i'r trydydd safle yn netholion y byd, gan gamu heibio Awstralia a Lloegr.
Ar ôl y gêm dywedodd hyfforddwr Cymru Warren Gatland mai hwn oedd ei daith orau gyda Chymru.
"Ro' ni meddwl bod y bois yn wych, rwy'n bles gyda'r daith."
"Rydym wedi cyrraedd ein targedau a'n hamcanion ac mae'n sefyllfa dda i fod ynddo," meddai.
"Fe soniais yr wythnos diwethaf ein bod yn disgwyl i'r Pumas ddod 'nôl, ond doedd hyn ddim am y gwrthwynebwyr roedd o yn fwy amdanom ni yn cymryd cyfleoedd i ddatblygu, ac rydym wedi gwneud hynny."
"Rydym yn drydydd yn y byd ac mae hynny'n fonws."
Yn ogystal â phwyntiau o esgid Patchell roedd cyfanswm pwyntiau Cymru yn cynnwys cais gwych gan yr asgellwr Josh Adams, a chais gan Halam Amos yn dilyn gwaith da gan Ross Moriarty a George North.
Croesodd Bautista Delguy, yn y gornel i'r Pumas funud cyn yr egwyl.
Yr unig nodyn negyddol i Gymru oedd cerdyn coch i'r wythwr Ross Moriarty ar ôl iddo ymrafael gyda'r maswr Nicolas Sanchez.
Daeth ail gais, cais cysur, Ariannin ar ôl i Moriarty adael y cae, gyda'r prop Julian Montoya yn croesi.