Ehangu cynllun 30 awr o ofal plant am ddim

  • Cyhoeddwyd
Plentyn yn chwaraeFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd mwy o gynghorau yn dod yn rhan o gynllun treialu gofal plant am ddim y llywodraeth ymhen tri mis.

Mae'r cynnig o 30 awr o ofal am ddim i blant rhwng tair a phedair oed wedi ei gyflwyno hyd yma ym Môn, Gwynedd, Caerffili, Sir y Fflint, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Blaenau Gwent.

Bydd saith awdurdod arall yn rhan o'r cynllun ym mis Medi: Caerdydd, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Torfaen, Ceredigion, Conwy a Wrecsam.

Ond mae rheolwr un meithrinfa wedi beirniadu'r anghysondeb wrth gyflwyno'r cynllun i wahanol siroedd.

Ehangu cynllun

Mae'r cynnig ar gael am 48 wythnos o'r flwyddyn i blant sydd â rhieni sy'n gweithio.

Ond mae wedi ei feirniadu yn y gorffennol gydag adroddiad yn 2017 yn dweud bod prinder meithrinfeydd yn golygu na fydd rhieni'n gallu elwa.

Mae awgrym bod angen cynnig y gofal , dolen allanol, tra bod ffigyrau diweddar yn dangos bod llawer llai o wariant na'r disgwyl wedi bod a llai o rieni na'r disgwyl wedi manteisio.

Mae'r cyhoeddiad wedi ei groesawu gan rieni yn Sir Conwy, a ddywedodd y byddai'n gwneud "andros o wahaniaeth" ac yn gymorth i fynd yn ôl i weithio.

Ychwanegodd Eirlys Owen, Arweinydd Cylch Meithrin Cerrig-y-drudion y byddai denu mwy o blant i'r feithrinfa yn "dipyn o hwb i'r cylch ac yn arian da i ni gadw'r cylch i fynd am flynyddoedd".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ffion Roberts ei bod yn barod i gynnig y gwasanaeth, ond nad oedd ar gael yn ei sir hi

Ond mae Ffion Roberts, rheolwr Meithrinfa'r Felin yn Rhuthun, Sir Ddinbych, yn feirniadol o'r anghysondeb sydd rhwng siroedd.

"Mae gynno ni ddigonedd o le i'r plant 'ma ddod, 'da ni'n barod i 'neud y thirty hours, mae meithrinfa Rhuthun yn barod, mae meithrinfa Pwllglas yn barod, mae'r cylch a'r ysgolion yn barod i weithio 'efo ni.

"A dwi'm yn gwbod pam 'da ni'm yn cael yr arian."

Ychwanegodd bod un plentyn yn ei meithrinfa sy'n byw yn Sir y Fflint ac yn derbyn 30 awr am ddim.

"Mae pawb arall yn deud, pryd fydd o'n dod ata ni?"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad ydy cyflwyno'r cynllun ar draws Cymru erbyn 2020

Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod teuluoedd sy'n cymryd rhan yn y cynlluniau peilot yn rhoi adborth eu bod yn ei gwneud yn haws iddyn nhw weithio.

Maent hefyd wedi dweud bod y nifer sy'n ymwneud a'r cynllun yn "parhau i dyfu".

Wrth wneud y cyhoeddiad ddydd Mawrth dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ei fod yn "gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i rieni ledled Cymru, gan leihau'r straen ar incwm teuluoedd a helpu i sicrhau nad yw gofal plant yn eu rhwystro rhag derbyn swydd neu gynyddu eu horiau".

Roedd cynnig gofal am ddim yn un o ymrwymiadau maniffesto'r llywodraeth ac maent yn bwriadu gwneud y polisi yn un fydd ar gael ar draws Cymru erbyn 2020.