Canmoliaeth i lwyddiant cynllun gofal babanod Abertawe

  • Cyhoeddwyd
BabiFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cynllun sy'n golygu bod rhieni'n edrych ar ôl eu babanod newydd-anedig pan maen nhw'n sâl neu wedi eu geni cyn eu hamser wedi dangos lleihad yn y cyfnod y mae'n rhaid i'r babanod aros yn yr ysbyty.

Mae uned gofal dwys newydd enedigol Ysbyty Singleton yn Abertawe yn cynnig y gwasanaeth ers blwyddyn - y cyntaf yng Nghymru i wneud hynny - ac mae'r rhai sy'n ymwneud â'r cynllun Gofal Cynnwys teulu yn dweud ei fod yn llwyddo.

Bydd eu canfyddiadau'n cael eu rhannu gan arbenigwyr yng nghynhadledd Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant a Chymdeithas Pediatreg Cymru ddydd Gwener.

Y gobaith yw y bydd ysbytai eraill yng Nghymru yn medru manteisio ar y cynllun hefyd.

Mae'r rhieni'n derbyn hyfforddiant ac anogaeth i edrych ar ôl eu babanod yn hytrach na staff yr ysbyty, ac yn dysgu sgiliau fel sut i roi meddyginiaeth i'w plentyn, eu bwydo trwy biben a chymryd eu tymheredd.

Yng Nghanada y dechreuodd y cynllun ychydig flynyddoedd yn ôl, ac mae wedi cael canlyniadau positif yn Ysbyty Singleton.

Mae'r canlyniadau'n dangos:

  • bod mwy o famau'n dewis bwydo o'r fron tra bod eu babi yn yr uned;

  • cynnydd yn nifer y babanod sy'n gadael yr ysbyty wedi cael rhywfaint o laeth gan eu mam; a

  • lleihad yn y cyfnod mae'n rhaid i'r babanod aros yn yr uned gofal dwys.

Disgrifiad,

Mae cyffyrddiad 'tyner' rhieni yn gwneud gwahaniaeth, medd yr uwch-nyrs Lora Alexander

Dywedodd Lora Alexander, uwch-nyrs yn yr uned gofal dwys: "Mae babi wastad wedi ymateb lot gwell i mam a dad, a does dim lot i ni wneud na allwn ni ddysgu rhieni i wneud gyda anogaeth a chymorth a ni'n ffindio bod y canlyniadau yn lot gwell nawr."

Mae'n dweud bod y rhieni'n fwy bodlon am eu bod yn cael helpu i edrych ar ôl eu plentyn.

Cyffyrddiad rhiant

"Mae rhieni sydd wedi cael ail, trydydd plentyn yma yn ffindio bod y profiad yma lot gwell nag odd e o'r blaen. Maen nhw fwy hyderus, yn hapusach mynd â'r babi gartre yn gynharach ac mae'r babi ddim mor sâl ag o'n nhw."

Ac mae'r babanod yn ymateb i'r cysylltiad hynny sydd nawr yn digwydd gyda'r rhieni, meddai.

"Ni'n galw fe pan ni yn cyffwrdd nhw, toxic touch a pan mae'r rhieni yn cyffwrdd nhw yn therapeutic touch, jest yn y ffordd mae'r babi yn ymateb.

"Maen nhw yn gwybod pan ni yn cyffwrdd nhw bod ni yn bod yn effeithiol iawn. Ni'n dyner ond effeithiol. A pan mae rhieni yn cyffwrdd nhw mae e jest yn gariadus. Ma' fe yn dyner, lyfli."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lowri yn bwydo o'r fron ac yn rhoi y bwyd trwy diwb i'w merch, Mali

Yn ôl Lowri Wyn Jones, sy'n fam i ferch fach ac yn rhan o'r cynllun, mae gallu rhoi bwyd i'w phlentyn yn beth positif.

"Mae'n beth really important achos i fi mae'n beth mor naturiol i gael 'neud, rhoi bwyd i dy fabi di ac pan wnaethon ni gyrraedd gynta' a meddwl sut ydw i yn mynd i roi bwyd i 'mabi fi, mae o yn neis bod fi yn cael gwneud hynna iddi hi."

Dywedodd hefyd bod gallu edrych ar ôl ei phlentyn yn ymarferol yn bwysig.

"Ni yw y carers i hi. Babi ni ydy hi. Dim babi yr hospital, babi y nyrsys."