Galw am roi marina a harbwr Pwllheli mewn dwylo preifat

  • Cyhoeddwyd
Harbwr Pwllheli

Mae yna alwadau am roi harbwr a marina Pwllheli mewn dwylo preifat gan fod cynifer o angorfeydd gwag yno.

Cyngor Gwynedd sy'n gyfrifol am y safle, ac mae rhaglen Manylu ar BBC Radio Cymru wedi clywed beirniadaeth nad ydy'r awdurdod wedi edrych ar ôl yr adnoddau yn ddigon effeithiol ers iddyn nhw gymryd yr awennau gan Gyngor Dosbarth Dwyfor yn y 1990au.

Mae'r cyngor yn dweud eu bod yn derbyn bod angen cyflwyno gwelliannau, ac y bydd £300,000 yn cael ei wario'n ddiweddarach eleni ar garthu'r marina a'r harbwr.

'Adnoddau'n gwaethygu'

Mewn cyfweliad â Manylu, dywedodd Ifor Hughes, Cadeirydd Cymdeithas Perchnogion Cychod Llŷn, fod y prisiau'n codi bob blwyddyn a'r adnoddau'n gwaethygu: "Pan oeddech chi'n talu am eich moorings blynyddoedd yn ôl, oeddech chi'n cael lot mwy am eich pres.

"Oedd yr harbour master yn mynd yna i roi rhaffau, oedd o'n gwneud yn siŵr bod y gwch yn saff cyn bo chi yn cael defnyddio hi, ond ma' nhw 'di neud i ffwrdd efo hynna i gyd rŵan.

"Jest talu da' chi rŵan, ac mae'r cychod i gyd yn sychu allan. Mae hi ar ei gwaetha' rŵan - 'dwi erioed wedi ei gweld hi mor wag. A faint fynnir o lefydd ond bod y pobl ddim isho nhw."

Angorfeydd gwag

Mae 500 o lefydd angori rhwng y marina - sef yr Hafan - a'r harbwr allanol. Roedd 150 o'r rheiny yn wag hyd at bythefnos yn ôl.

Gyda phob perchennog cwch yn talu costau blynyddol o £400 am bob metr o hyd eu cwch, mae Cyngor Gwynedd, sy'n berchen y ddau le, yn colli incwm sylweddol,

Roedd incwm y llynedd £350,000 yn llai nag wyth mlynedd yn ôl, i lawr o £1,680,000 i £1,322,000.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ifor Hughes yn dweud fod hwylwyr yn troi cefn ar y marina oherwydd bod adnoddau'n gwaethygu

Mae Ifor Hughes yn credu bod perchnogion cychod yn cadw draw am nad ydyn nhw'n gallu defnyddio'u cychod pan maen nhw'n dymuno gwneud.

"Os fysa'r basin a'r afon yn cael eu drejio'n iawn, mi fysa cychod yn gallu mynd mewn ac allan fel oedden nhw pan gafodd y marina ei neud yn y lle cynta' blynyddoedd yn ôl.

"Ond mae o 'di cael ei adael, mae o wedi llenwi, mae na ormod o fwd a tywod yno. Dydyn nhw ddim wedi bod yn ei wneud o yn ddigon aml a ddim wedi neud o i safon digon da."

Gorlawn yn yr '80au

Er bod gwrthwynebiad cryf i'r cynlluniau i gael marina yn yr 1980au oherwydd pryderon am effaith y datblygiad ar yr iaith, fe benderfynodd yr hen Gyngor Dosbarth Dwyfor fwrw ymlaen â'r cynlluniau.

Cynghorydd Tref Pwllheli, Meic Parry oedd Cadeirydd y Cyngor Dosbarth pan drosglwyddon nhw'r Hafan i ofal Cyngor Gwynedd yn 1996.

"Roedd o yn ei anterth ar y pryd, rhestr aros, y lle yn orlawn," dywedodd. "Mynediad, mwy na heb, 24 awr y dydd. Heddiw yn anffortunus, tydy o ddim byd tebyg i be fydda fo."

Diffyg buddsoddiad sydd ar fai am sefyllfa'r harbwr erbyn hyn, meddai.

"Byswn i'n deud bod yr Hafan wedi dod â rhwng £10m i £15m o elw iddyn nhw yn braf dros y blynyddoedd, ond dydyn nhw ddim wedi ailfuddsoddi ynddo, dyna'r gwendid mawr.

"Mae nhw wedi ei godro hi o arian, ac os 'da chi dal i odro buwch, mynd yn sych ma' hi yn diwedd, a dyna yn anffodus ydy sefyllfa yr harbwr ar hyn o bryd."

Ffynhonnell y llun, Google

Bydd yr awdurdod yn gwario £300,000 yno yn ddiweddarach eleni ar garthu'r marina a'r harbwr, a symud y tywod a gwastraff sydd wedi casglu yno dros y blynyddoedd.

Mae'r awdurdod yn derbyn bod angen edrych ar sut i wella pethau.

'Gwerthu'n opsiwn'

Dywedodd deilydd y portffolio economi a hamdden, y cynghorydd Ioan Thomas: "Dwi'n derbyn yn llwyr dydy bobl ddim yn hapus efo'r darpariaeth presennol a felly dwi wedi sefydlu bwrdd prosiect.

"Mae'r bwrdd prosiect yma yn cynnwys dau gynghorydd lleol yn Pwllheli a 'da ni wedi cyfarfod cynrychiolwyr o bobl sydd efo cychod yn yr Hafan, 'da ni wedi siarad efo'r busnesa', ac mae'r swyddogion wedi siarad efo'r cynghorwyr tre ac ardal Dwyfor.

"Mae sawl opsiwn yn agored i ni yn cynnwys gwerthu, ac er nad oes neb wedi sôn hyd yma am breifateiddio, mi fydd o yn opsiwn."

Fydd Cyngor Gwynedd a'r bwrdd prosiect sy'n edrych ar ddyfodol Harbwr Pwllheli ddim yn gwneud penderfyniad tan ddiwedd y flwyddyn.

Yn ôl Meic Parry, mae'n anorfod y bydd yn rhaid i'r awdurdod ei drosglwyddo i rywun arall ei redeg ar eu rhan. "Mae'n anodd iawn i awdurdod redeg gwasanaethau sydd â galw 24 awr, saith diwrnod yr wythnos."

"Dydy o ddim yn faes y dylia nhw fod ynddo fo, a d'eud y gwir. Mi ddylia nhw ei roi yn nwylo preifat, ond fod y telerau yn rhai rhesymol o ystyried y gwaith sydd yno. Mi fydd rhaid cael rhywun sydd efo digon o bres."

Manylu ar BBC Radio Cymru am 12:30 ddydd Iau 21 Mehefin neu mae modd gwrando ar yr iPlayer.