Cyhoeddi enw dyn fu farw ar lôn ddwyreiniol yr M4

  • Cyhoeddwyd
Jeffrey Paul WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu yn cefnogi teulu Jeffrey Paul Williams, 56 oed, a fu farw yn y gwrthdrawiad

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau enw dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4 ddydd Iau.

Roedd Jeffrey Paul Williams yn 56 oed ac yn dod o Gwmbrân.

Roedd ei gar mewn gwrthdrawiad â dau gar arall ar lôn ddwyreiniol y draffordd rhwng Caerdydd a Chasnewydd.

Bu farw o'i anafiadau ac mae plismyn arbenigol yn rhoi cymorth i'w deulu.

Apelio am wybodaeth

Mae dyn 60 oed o Sir Buckingham yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Mae ymchwiliad yr heddlu'n parhau ac maent yn apelio ar dystion neu aelodau o'r cyhoedd sydd â lluniau 'dashcam' o'r gwrthdrawiad i gysylltu.

Fe ddigwyddodd y ddamwain tua 16:35 brynhawn Iau rhwng cyffyrdd 28, Parc Tredegar a 30, Pentwyn, ac roedd y lôn ddwyreiniol ar gau am wyth awr tan oriau mân y bore.

Roedd y lôn orllewinol am gau am hanner awr er mwyn i ambiwlans awyr allu glanio ar y ffordd.

Cafodd dau berson eu cludo i'r ysbyty.

Roedd tri char yn y gwrthdrawiad - car Perodua du y dyn a fu farw, car Honda 4x4 y gyrrwr sydd yn y ddalfa ac Audi A6 lliw arian.