Heddlu'n cyhoeddi enw dyn fu farw wedi dawmain ar yr M4
- Cyhoeddwyd

Digwyddodd y ddamwain rhwng cyffyrdd 24 a 23a
Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dyn a fu farw ar ôl gwrthdrawiad ar yr M4 ger Casnewydd ddydd Mercher.
Roedd Alexander John Merriman yn 61 oed ac o Lundain.
Roedd yn gyrru car Audi Q5 glas wnaeth adael y ffordd rhwng cyffordd 24, Coldra a 23a Magwyr tua 17:10 brynhawn Mercher.
Cafodd anafiadau difrifol i'w ben a bu farw o'i anafiadau yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Cafodd teithiwr yn y car ei drin am fân anafiadau i'w ben.
Mae plismyn arbenigol yn parhau i roi cymorth i deulu Mr Merriman.