Pryder am adfer £2.5m gan gwmnïau morlyn Bae Abertawe

  • Cyhoeddwyd
MorlynFfynhonnell y llun, PA

Mae cwestiynau a fydd £2.5m o arian trethdalwyr gafodd ei fenthyg i'r cwmnïau y tu ôl i gynllun morlyn llanw Bae Abertawe yn gallu cael ei adfer.

Ddydd Llun dywedodd Llywodraeth y DU nad oedd y prosiect yn cynnig gwerth am arian, ond mae'r datblygwyr wedi gwadu hynny.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones nad oedd yr arian wedi ei wastraffu, a bod y cyllid yn arferol i ddatblygu technoleg newydd.

Ychwanegodd ei fod am atal y cwmni rhag mynd i'r wal wrth i Lywodraeth y DU wneud eu penderfyniad.

Mae Charles Hendry, wnaeth gefnogi'r morlyn mewn adolygiad, wedi dweud y gallai Llywodraeth y DU fod wedi penderfynu 18 mis yn ôl.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru fenthyg £1.25m i Tidal Lagoon PLC ym mis Mawrth i ddangos cefnogaeth i'r prosiect wedi iddo wynebu blynyddoedd o oedi.

Roedd hynny'n ychwanegol i fenthyciad £1.25m arall i gwmni cysylltiedig, Tidal Lagoon (Swansea Bay) PLC, ym mis Chwefror 2015.

Mae BBC Cymru ar ddeall mai Tidal Lagoon PLC sy'n berchen ar yr Eiddo Deallusol (ED) sy'n gysylltiedig â'r datblygiad, sef ble mae'r gwerth mwyaf.

Yn gyfnewid am fenthyciad, fe wnaeth Llywodraeth Cymru sicrhau cytundeb gyda'r cwmni sy'n debyg i forgais dros yr asedau.

Ffynhonnell y llun, TLP

Mae Tidal Lagoon PLC a Tidal Lagoon (Swansea Bay) PLC yn gwmnïau gwahanol, ond mae Mark Shorrock yn brif weithredwr ac yn gyfranddaliwr yn y ddau.

Mae'r ddau gwmni wedi colli miliynau o bunnoedd dros y blynyddedd diwethaf ond yn ôl arbenigwr byddai hynny i'w ddisgwyl ar ddechrau datblygiad y morlyn.

Mae gan Tidal Lagoon (Swansea Bay) PLC ddyledion o tua £17m.

'Perygl colli arian'

Wrth edrych ar y dyledion, mae cyfrifydd arbenigol wedi dweud wrth BBC Cymru bod "perygl y bydd yr arian yn cael ei golli".

Dywedodd Geoff Mesher o Tempest Forensic Accounting y byddai gwerth yr Eiddo Deallusol, ac a fyddai'n bosib ei ddefnyddio mewn lleoliad arall, yn hollbwysig.

"Maen nhw'n cael cyllid gan incwm llywodraeth, a drwy fenthyciadau, felly ar hyn o bryd maen nhw'n gallu talu [eu dyledion].

"Ond fe wnes i sylwi bod rhai contractwyr yn gweithio ar sail amodol [yn amodol os oedd y cynllun yn digwydd].

Y gred yw bod Llywodraeth Cymru yn fodlon cynnig £200m ychwanegol i adeiladu'r prosiect, petai wedi cael ei gymeradwyo.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru: "Nawr bod pobl yn gwybod cost y morlyn llanw, y cyfleoedd economaidd cyfyngiedig a'r perygl mae costau ynni uwch yn ei greu i ddiwydiannau gweithgynhyrchu, mae'n syndod bod rhai pobl yn dal i gefnogi'r prosiect yma."