Gwrthod caniatâd ar gyfer pwerdy biomas yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau ar gyfer pwerdy biomas yn Sir Benfro fyddai wedi creu 560 o swyddi wedi cael eu gwrthod.
Roedd cwmni Egnedol o Gyprus eisiau buddsoddi £685m yn y cyfleuster ynni adnewyddadwy ar y safle yn Aberdaugleddau.
Y bwriad oedd cynhyrchu ynni gwyrdd a thanwydd hylif gwyrdd gan ddefnyddio biomas.
Ond fe wnaeth Cyngor Sir Penfro argymell gwrthod y cais ar sail yr effaith ar ecoleg a'r tirwedd, yn ogystal â diogelwch traffig.
Roedd pryder hefyd ynghylch yr effaith ar fywyd gwyllt yr ardal gan gynnwys ystlumod, dyfrgwn ac anifeiliaid eraill megis morloi a dolffiniaid.
Dywedodd arolygwyr y byddai'r datblygiad yn "annerbyniol o niweidiol i gymeriad ac ymddangosiad yr ardal" a bod yr effeithiau negyddol posib yn fwy na'r manteision.
Cafodd y penderfyniad gefnogaeth gan Yr Arolygiaeth Gynllunio, a dywedodd Ysgrifennydd Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Leslie Griffiths ei bod hithau'n cytuno â'r argymhelliad i wrthod y cais.