Monolog Cymro i ddathlu'r Gwasanaeth Iechyd yn 'fraint'

  • Cyhoeddwyd
Seiriol DaviesFfynhonnell y llun, Seiriol Davies

Mae actor a chyfansoddwr o Ynys Môn wedi disgrifio'r "fraint" o gael comisiwn gan un o theatrau amlycaf Llundain i ysgrifennu monolog yn nodi pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 70 oed.

Mae cyfraniad Seiriol Davies ymhlith wyth o fonologau rhwng 10 a 15 munud o hyd sy'n cael eu perfformio dan y teitl 'The Greatest Wealth' ar lwyfan The Old Vic nos Wener, ac mae pob un yn canolbwyntio ar ddegawd neilltuol o'r 1940au ymlaen.

Cyflwr y GIG erbyn diwedd y 2010au yw testun ei fonolog cerddorol 'The Nuchess' sy'n cael ei berfformio gan yr actores Louise English.

Dywedodd yr actor fod y darn yn crynhoi'r hanes hyd heddiw ac yn rhoi diweddglo cadarnhaol i'r noson gyda'r neges bod angen i bobl "beidio meddwl bod y frwydr [i warchod y GIG] wedi'i cholli".

'Mae hi dal efo ni'

"Dwi wedi ymgnawdoli'r Gwasanaeth Iechyd fel pefformwraig cabaret 70 oed," meddai, am y cymeriad sydd ag enw sy'n gyfuniad o 'NHS' a 'Duchess'.

"Mae hi dal efo ni, mae hi dal yn fabulous, mae hi wedi pylu rhywfaint ond mae hi dal yn gallu neud high-kicks."

Louise English yn ymarfer The NuchessFfynhonnell y llun, Seiriol Davies
Disgrifiad o’r llun,

Louise English yn ymarfer y monolog cerddorol The Nuchess ar lwyfan theatr The Old Vic

Mae wedi bathu'r term 'songologue' am y perfformiad sy'n cynnwys cân serch i sylfaenydd y GIG, Aneurin Bevan, gan mai "fo yw ei crush cynta' hi".

"Mae'n mynd trwy'r degawdau a'r llwyddiant hyd yma ond mae pawb yn d'eud wrthi rŵan bod hi'n bloated ac aneffeithiol a dylsa hi fod yn debycach i'w chwaer yn America. Mae hi'n yn sleek a chic, achos dydi hi ddim yn trin neb oni bai bod nhw'n gyfoethog ac yn iach."

Mae'r monologau'n cael eu perfformio gan actorion amlwg yn cynnwys Meera Syal, Art Malik, David Threlfall a Dervla Kirwan, ac yn cael eu cyfarwyddo gan Adrian Lester.

Yn ôl Seiriol Davies, mae bod yn rhan o'r un tîm creadigol a dysgu wrth weld sut mae'r gweddill yn gweithio yn "fraint anferthol".

Seiriol Davies yn How To Win Against HistoryFfynhonnell y llun, How To Win Against History
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Seiriol Davies gryn glod y llynedd am ei sioe gerdd cabaret 'How To Win Against History'

Ychwanegodd fod cael gweld ymateb cynulleidfa o ryw 1,000 i'w eiriau mewn theatr mor bwysig â'r Old Vic yn "naid fawr" yn ei yrfa, er iddo berfformio mewn amryw o theatrau'r llynedd gyda'i sioe am y pumed Marcwis o Fôn, How To Win Against History.

Dywedodd yr actor ei fod yn "lwcus" nad yw wedi gorfod defnyddio llawer o wasanaethau iechyd hyd yma, ac wrth ymchwilio i'r pwnc roedd yn awyddus i glywed am brofiadau pobl sy'n gweithio i'r GIG ar hyn o bryd.

Bu'n siarad gyda meddygon sy'n rhan o'r ymgyrch i fynd â'r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt i'r llys cyn mynd ati i ysgrifennu.

"Dwi'n crynhoi be' sy'n dda, be' sy'n ddrwg a be' sy'n llai drwg," meddai. "Ar y diwedd dwi'n cynically optimistig ond mae neges i bobl peidio meddwl bod y frwydr wedi'i cholli.

"Mae'r refrain yn dweud 'It's a wonderful idea / It's a marvellous idea" ond os ydy pobl yn stopio credu ynddo, mi fydd o'n disgyn yn ddarnau."