Degau o filoedd yn Niwrnod y Lluoedd Arfog yn Llandudno

  • Cyhoeddwyd
Diwrnod Lluoedd Arfog
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau'r lluoedd arfog yn gorymdeithio drwy'r dref fore Sadwrn

Daeth degau o filoedd o bobl i Landudno ddydd Sadwrn wrth i ddathliad Diwrnod y Lluoedd Arfog gael ei gynnal yno.

Dywedodd y trefnwyr eu bod yn disgwyl i 100,000 o bobl dyrru i'r dref, sydd â phoblogaeth o ryw 20,000.

Gobaith Cyngor Conwy yw y bydd y digwyddiad yn rhoi hwb gwerth £4m i'r economi leol.

Gan ddechrau yng Nghofeb Rhyfel Llandudno, fe orymdeithiodd parêd ar hyd glan môr y dref i Gaeau Bodafon yn y bore.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth miloedd i'r dref i wylio'r dathliadau

Roedd y Prif Weinidog Theresa May, y Prif Weinidog Carwyn jones a'r Dywysoges Anne ymhlith y miloedd a gymeradwyodd y catrawdau wrth iddyn nhw gerdded trwy strydoedd y dref.

Dyma un o ymddangosiadau cyntaf gafr newydd y Gatrawd Frenhinol Gymreig, Shenkin IV, wedi iddo gael ei ddal o'r diwedd ym mis Mawrth.

Daeth carfan fechan o brotestwyr i'r dref hefyd, yn arddangos baneri'n galw am "heddwch a chyfiawnder" ac am "ariannu'r gwasanaeth iechyd yn hytrach na bomiau".

Ffynhonnell y llun, Cyngor Conwy
Disgrifiad o’r llun,

Bydd nifer o ffyrdd ar gau oherwydd y dathliadau

Cafodd nifer o ffyrdd eu cau, a cahfodd y rhai oedd yn mynychu eu hannog i ddefnyddio'r gwasanaethau parcio a cherdded neu barcio a theithio.

Roedd y ffordd o amgylch Y Gogarth ar gau tan 12:00, a bydd Cilgant Clarence a Ffordd Bodafon ynghau tan 22:00.

Mae gwasanaeth parcio a theithio'n agored nes 21:30.