Un wedi marw mewn damwain ger Dolgellau

  • Cyhoeddwyd
Llun o'r ddamwain gyda lori yn y ffos a'r hofrenydd yn y cefndirFfynhonnell y llun, Erfyl Lloyd Davies
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dau ddyn eu hedfan i Ysbyty Stoke, lle maen nhw mewn cyflwr difrifol

Mae dyn 18 oed wedi marw a dau o bobl wedi eu hanafu''n ddifrifol wedi damwain rhwng car a lori ger Dolgellau brynhawn dydd Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r cyffordd ble mae'r A487 a'r A470 yn cwrdd i'r de o'r dre ger tafarn y Cross Foxes am 17.15.

Yn ôl Heddlu'r Gogledd bu farw gyrrwr y car, oedd yn 18 oed, yn y fan a'r lle.

Fe wnaeth Ambiwlans Gogledd Cymru gadarnhau bod dau ddyn wedi cael eu cludo mewn hofrennydd i ysbyty Royal Stoke, a'u bod nhw mewn cyflwr difrifol.

Mae'r heddlu bellach yn apelio am dystion.

Dywedodd yr Uwch-ringyll Meurig Jones o Uned Drafnidiaeth Heddlu'r Gogledd: "Fe ddigwyddodd y ddamwain rhwng lori a char Seat Ibiza du, ac rydyn ni'n apelio ar i unrhyw un a welodd y ddamwain, neu a welodd sut oedd y ddau gerbyd o dan sylw yn cael eu gyrru ychydig cyn y ddamwain, i gysylltu â ni."