'Ymgyrch' i annog Andrew RT Davies i ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Andrew RT Davies ddarganfod bod rhai aelodau o'r Ceidwadwyr yn San Steffan eisiau cael gwared arno fel arweinydd y grŵp yn y Cynulliad ar ôl cael ei gopïo mewn i neges destun mewn camgymeriad dros flwyddyn yn ôl.
Fe wnaeth Mr Davies gamu lawr o'r rôl yr wythnos ddiwethaf yn dilyn misoedd o densiwn y tu ôl i'r llenni.
Roedd wedi ei feirniadu gan aelod seneddol y blaid, Guto Bebb, ddyddiau ynghynt am ei sylwadau ar Airbus a Brexit.
Ond yn ei gyfweliad cyntaf ers camu o'r rôl dywedodd ei fod wedi darganfod 14 mis yn ôl bod aelodau o'r blaid yn San Steffan wedi bod yn pwyso i gael gwared arno.
Mae Mr Davies wedi galw am gystadleuaeth i'w olynu, gan ddweud bod arweinydd y grŵp yn y Cynulliad angen mandad gan aelodau Ceidwadol ar lawr gwlad.
Mae rhai cefnogwyr wedi galw arno i fod yn ymgeisydd yn y ras honno, ond dywedodd mewn cyfweliad â BBC Cymru na fyddai'n gwneud hynny.
'Cael gwared arnai'n syth'
"Rhyw 14 mis yn ôl fe ges i fy nghopïo mewn neges destun na ddylwn i fod wedi'i weld, oedd yn dangos bod ymgyrch i geisio cael gwared arnai fel arweinydd," meddai.
"Roedd y neges yn sôn am un ai fy nghadw'n dawel neu gael gwared arnai'n syth, ac roedd hynny o ben arall yr M4.
"Mae wedi cynyddu dros y misoedd diwethaf, gyda thrafodaethau gyda fy nghyfoedion yn y Bae."
Ond dywedodd Mr Davies - oedd wedi bod yn arweinydd ers 2011 - ei fod yn deall pam fod rhai eisiau newid.
Cefnogaeth 'mwyafrif amlwg'
Ychwanegodd bod "trafodaethau" wedi bod am ei ddyfodol am rai wythnosau cyn iddo gamu lawr yr wythnos ddiwethaf.
Doedd dim pleidlais o fewn y grŵp yn y Cynulliad, ond dywedodd Mr Davies ei fod wedi derbyn cefnogaeth "mwyafrif amlwg" oedd yn hapus iddo barhau yn y rôl, ond bod nifer eisiau ailedrych ar sefyllfa cyn etholiad 2021.
"Doeddwn i ddim yn credu ei bod yn ymarferol i mi barhau heb yr hyder i ddal ati nes etholiad 2021, felly fe wnes i benderfynu y byddwn yn rhoi'r gorau i'r arweinyddiaeth," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2018