Iechyd: Pwnc gwleidyddol unigryw
- Cyhoeddwyd
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Fedrwch chi weld camgymeriad Jeremy Corbyn yn y neges uchod?
Roedd ei elynion gwleidyddol wrth eu boddau yn ei atgoffa taw llywodraethau Llafur sydd wedi goruchwylio gwasanaethau iechyd lleol Y Barri ers buddugoliaeth Tony Blair yn 1997.
Efallai gallwn ni maddau iddo am ddrysu. Mae arolygon i'r BBC yn ddiweddar wedi awgrymu bod tua thraean o bobl Cymru yn credu taw San Steffan sy'n rhedeg y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Roedd Mr Corbyn yng Nghymru i ddathlu 70 mlynedd ers sefydlu'r GIG.
Gwasanaeth unigryw
Mae'n wasanaeth sydd ar dir unigryw mewn gwleidyddiaeth. Mae'r gwleidyddion yn gwybod hynny, ac yn ei ddefnyddio i ddiffinio'u hunain ac ymosod ar eraill.
Fe wnaeth y Ceidwadwr Daniel Hannan, Aelod o Senedd Ewrop, achosi cur pen i David Cameron yn 2009 pan ymosododd ar y gwasanaeth iechyd ar deledu yn America.
Ar yr y pryd, roedd Mr Cameron yn prysur geisio perswadio'r pleidleiswyr y byddai'r gwasanaeth yn ddiogel yn nwylo'r Torïaid. Galwodd Mr Hannan yn "ecsentrig".
Aeth Andy Burnham, yr ysgrifennydd iechyd dan lywodraeth Lafur y dydd, yn bellach, gan ei alw'n "anwlatgar".

Roedd Jeremy Corbyn yn Nhredegar dros y penwythnos i ddathlu pen-blwydd y GIG
Yng Nghymru, gellir dadlau bod y syniad o'r sefydliad fel rhan o'n hunaniaeth genedlaethol hyd yn oed yn gryfach.
Yn gyson, fe ymosododd Mr Cameron ar berfformiad Llywodraeth Cymru yn y maes, ond pan alwodd y ffin rhwng Lloegr a Chymru yn "llinell rhwng bywyd a marwolaeth" fe wnaeth Carwyn Jones ei gyhuddo o ddechrau "rhyfel ar Gymru".
Mae ei rhethreg yn llai ymosodol, ond mae olynydd Mr Cameron wedi parhau yn yr un modd.
Mae Theresa May yn cyhuddo Llafur o beidio â gwario digon - ond mae'n anwybyddu'r ffaith bod gwariant iechyd y pen yn uwch yng Nghymru.
Pwy sy'n 'berchen' ar iechyd?
Ond pam targedu Llafur Cymru? Achos bod pleidleiswyr, ar y cyfan, yn cysylltu'r blaid yna gyda'r GIG ac nid y Ceidwadwyr.
Dywedodd yr Athro Roger Awan-Scully, o Ganolfan Llywodraethiant Prifysgol Caerdydd bod tueddiad o sôn am bleidiau yn "berchen" ar bynciau, a Llafur, yn draddodiadol, sy'n berchen ar iechyd.
Am flynyddoedd, fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig geisio newid hynny.
Erbyn dechrau 2016, gydag etholiad y cynulliad ar y gorwel, fe wnaeth astudiaeth dan arweinyddiaeth yr Athro Awan-Scully awgrymu bod y Torïaid ar y blaen pan ofynnwyd i bleidleiswyr Cymru pa blaid oedd yn gryfach ar iechyd. Roedd y sefyllfa i'r gwrthwyneb ar lefel Brydeinig.

Mae'r Athro Roger Awan-Scully wedi gwneud sawl astudiaeth ar y pwnc yng Nghymru
Fel newyddiadurwr roeddwn i'n disgwyl clywed mwy gan y Ceidwadwyr ynglŷn â'r gwasanaeth iechyd yn ystod yr ymgyrch ar gyfer yr etholiad yna.
Fe glywes i gan bobl yn y blaid bod dadl y tu fewn i'r Ceidwadwyr ynglŷn â pha mor galed i wthio'r pwnc yn yr ymgyrch. Doedd y cyd-destun ddim yn ffafriol iddyn nhw, diolch i streic gan feddygon iau yn Lloegr.
Mae llawer o'r hyn mae'r Torïaid wedi'i ddweud ar y gwasanaeth iechyd yn deillio o benderfyniad Llywodraeth Cymru yn 2011 i rewi'r cyllid ar gyfer y gwasanaeth - mewn gwirionedd, toriad cyllideb.
Mae Llywodraeth Cymru yn pryderu y byddai torri gofal cymdeithasol er lles ysbytai yn creu mwy o broblemau i'r gwasanaeth iechyd yn y pen draw.
Rôl yn y ras arweinyddiaeth
Fel wnaeth ein gohebydd Arwyn Jones ddatgelu'r wythnos diwethaf, mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething nawr yn dweud nad oedd y penderfyniad yna wedi gweithio.
Mae'n gyfaddefiad sylweddol, yn enwedig wrth i Lafur Cymru baratoi i ethol arweinydd newydd.
Fe fydd Mr Gething yn ymgeisydd. I ennill bydd yn rhaid iddo guro'r ceffyl blaen, Mark Drakeford, yr ysgrifennydd cyllid a chyn-ysgrifennydd iechyd.
Gydag iechyd yn llyncu bron i hanner gwariant Llywodraeth Cymru, mae'n anodd dychmygu cystadleuaeth rhyngddynt lle nad yw dyfodol y gwasanaeth yn chwarae rôl amlwg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2018