Sut mae esbonio logo newydd Pont Tywysog Cymru?

  • Cyhoeddwyd
Draig Goch Tywysog CymruFfynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

Mae llawer wedi gwylltio gyda'r logo sy'n dangos y ddraig goch gyda thafod a chrafangau glas, a chadwyn o gwmpas ei gwddf

Ers y seremoni swyddogol i enwi Ail Bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru, mae nifer wedi eu gwylltio oherwydd y logo gafodd ei arddangos i gynrychioli'r bont.

Ar y wyneb, mae'n amarch i Gymru ac yn dangos ein draig goch gyda'r hyn sy'n edrych fel cadwyn wen o gwmpas ei gwddf a'i thafod wedi'i liwio'n las - lliwiau Jac yr Undeb.

Mae Facebook a Twitter wedi bod yn groch gyda Chymry'n gweiddi fod hwn yn frad ac yn sarhad, ac eraill yn gofyn sut fedrai unrhyw un fod wedi creu'r fath ddelwedd fyddai'n siŵr o godi storm.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r penderfyniad i ailenwi'r bont wedi derbyn ymateb cryf

Wel, mae'r esboniad o darddiad y ddelwedd yn anhygoel o gyffredin a diflas... gan taw dyma'r ddraig sydd yn ymddangos yng nghornel waelod, dde arfbais swyddogol Tywysog Cymru.

Mae'r arfbais lawn yn cynnwys delweddau o'r Alban, Lloegr a Chymru, gyda'r ddraig yn cynrychioli'r cysylltiad Brenhinol â Chymru.

Mae'r darian fach aur a choch ynghanol yr arfbais, lle welwch chi bedwar llew, yn cynrychioli tywysogion gwreiddiol Gwynedd.

Ffynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

Chi 'di gweld y ddraig eto?

O ran y ddraig goch, mae'n ymddangos bod tafod a chrafangau'r ddraig wastad wedi bod yn las ar arfbais Tywysog Cymru wedi'r cwbl!