Posib bod tân Mynydd Cilgwyn wedi'i gynnau'n fwriadol
- Cyhoeddwyd
Mae penaethiaid tân yn y gogledd yn ymchwilio i'r posibilrwydd bod tân eithin mawr ger Caernarfon wedi cael ei gynnau'n fwriadol.
Fe wnaeth 15 o deuluoedd baratoi i adael eu cartrefi yn ardal Mynydd Cilgwyn ym mhentref Carmel nos Lun ar ôl i'r awdurdodau brys gael eu galw yno ychydig cyn 18:00.
Yn ei anterth roedd y tân wedi ymledu ar draws ardal milltir o hyd ac fe gafodd tua 40 o ddiffoddwyr tân eu gyrru yno i ymateb i'r sefyllfa.
Fe wnaeth pedwar o bobl aros yn y neuadd bentref ar ôl gorfod gadael eu cartrefi.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mae disgwyl y bydd criw yng Ngharmel trwy ddydd Mercher wrth iddyn nhw barhau i dampio'r ardal.
Mae diffoddwyr hefyd yn dal yn cadw golwg ar safleoedd tân agored ym Mraichmelyn, Bethesda, ac ym Mynydd Bangor ble roedd tân wedi ailgynnau erbyn bore Mercher cyn cael ei ddiffodd.
Yn y de, mae ymladdwyr tân yn dal yn monitro'r sefyllfa yng nghoedwig Aberpergwm yng Nglyn-nedd, ac yn ardal Wattstown ger Porth yn Rhondda Cynon Taf.